Tudalen:Cymru fu.djvu/503

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Chwi fedrwch droi coronau crynion
I fyn'd yn fân ddimeuau cochion;
Ond mawr na fedrwch yru'r ddimau,
Gwana' gwaith yn geiniog weithiau.

Mi ddymunas fil o weithiau
Fod fy mron o wydr goleu,
Fel y gallai'r fun gael gweled
Fod y galon mewn caethiwed.

Mi alla'n hyfach ofyn ceiniog
Im' llaw fy hun na llaw 'nghymydog;
Haws i'm gadw a ge's nac enill;
Llwm a llesg fydd gwalch heb esgyll.

Llwm fydd llwdn newydd gneifio,
Fe fydd gormod o biogod yn ei bigo;
A gwael fydd gwr â gwisg o sidan,
A'i bocedau hwyr a bore'n hir heb arian.

Dysgwch fyned i farchnata
Lle mae pleser goreu cellwair y gwyr calla',
Ni cheir o fyn'd i ffair y ffyliaid
At rai barus i dai gwallus ond y golled.

Hardd yw'r 'fallen ddyddiau C'lanmai,
Hardd yw'r llwyn o tan ei flodeu;
Y Gauaf nid yw rhai'n cyn hardded,-
Felly mûn, hardd ei llun, pan gyll ei chariad.

'Roeddwn efo'r hwyr yn rhodio
Gerddi gwyrddion i'm comfforddio,
Uwch fy mhen clywn fwyn lymysten,
Oes yw'r loes! beraidd foes, yn uchel ochen.

Nesu wnes yn ewyllysgar,
At fwyn ei llais a main ei llafar,
A than ufudd ofyn iddi,
Er mwyn dyn, fwynaf fun, beth yw dy g'ledi?

Dyma'i hateb a'i hesgusion,
Aml gnoc a dyr y galon :
Unig wyf yn mysg yr adar,

A'm gado'n gaeth yma wnaeth fy nghymwys gymhar.