Tudalen:Cymru fu.djvu/504

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAN-GOFION.

DAFYDD DDU ERYRI a ddamweiniodd fod unwaith yn Llangar, sir Feirion, yn cynal noswaith lawen gydag amryw eraill feirdd; a deisyf ganddo a wnaethant ganu englyn gan dant, yntau a ganodd yr Englyn hwn:—

Wrth chwarau tanau tynion—diesgus
Dysgwch waith angylion;
Gwnewch o'r ddaear hawddgar hon
Baradwys i'ch ysbrydion.

TRIOEDD LL. LLAWRWM O'R COETTY.—Tri dyn na thalant eu cwnu oddiar y domen; gloddestwr, ymbinciwr, a chrach-chwerthinwr.

Tri pheth goreu fydd eu crogi; eog hallt, het wleb, a chybydd.

Tri dewisbeth y Bardd Glas o'r Gadair; tân heb fŵg, ffordd heb laid, a gwraig heb dafod.

Tri pheth a ddylai gŵr eu meddu cyn yr elo i ymgyfreithio; clawdd aur, wyneb pres, a chalon ddur.

SYR RHYS AB TOMOS oedd arglwydd Deheubarth tan deyrnasiad Risiart Gefngrwm, brenin Lloegr, a than lŵ i'r brenin na oddefai i elyn lanio yn y gororau hyny, heb gerdded tros ei gorph ef; eithr pan glybu am ymgyrch Harri Tudur, ei gydwladwr, am goron Risiart, ymgyngreirio a wnaeth ag ef, a'i groesawu pan laniodd, ac er mwyn cadw ei lŵ, gorwedd ar lawr, a Harri a gamodd trosto. Felly yr oedd cariad Syr Rhys at ei wlad yn gryfach na'i gariad at ei deyrn. Y mae elfenau ffug-hanesiad campus yn muchedd ryfedd y gŵr dewr hwn.