Tudalen:Cymru fu.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oni ddisgynodd yn ddisymwth ar eu gwarthaf, gan eu llwyr lethu i'r llawr. Danfonwyd am Syr Hywel ar frys gwyllt, ac efe a'i fechgyn, mewn teimladau cymysgedig o lawenydd a galar — llawenydd o'u cael, a galar oherwydd eu cael yn y fath gyflwr — a barotoisant i'w gyru tuag adref. Ond yr oedd edrych ar y trueiniaid yn ceisio cerdded y peth digrifaf a welwyd yn y cwr hwnw er's llawer dydd; edrychent yn debycach i grancod y môr yn null eu cerddediad nag i un creadur arall. Llusgasant eu haelodau cyffiedig at aber o ddwfr oddeutu haner milldir oddiwrth y lle, ac yno y buont yn drachtio nes llwyr atal melin oedd yn sefyll ychydig islaw iddynt. [Y bobl sydd yn dweyd hyn, cofier.]

Dychwelodd Idwal adref wedi i'w ddychryn liniaru, a dywedodd Harri ab Sion wrtho, pe gwybuasai pa beth oedd dan y gwair, na buasai yn ei gythryblu am wythnos neu ddwy yn rhagor; a murmurai rywbeth nad dyna y tro cyntaf iddynt fod yno; ond pe buasai efe yn hollwybodol, mai hwnw fuasai eu tro diweddaf.

Nid oedd Syr Hy wel yn hoffi gweled pobl yn chwerthin wrth fyned heibio iddo ar yr heol, a phlantos yn estyn bys ar ei ol; a phwy all ei feio os ymabsenolodd oddiwrth y cyhoedd am rai wythnosau, ac os oedd ei le yn mharlwr y "Bedol " yn wâg, a'r amaethwyr druain yn colli ei eiriau cysurlawn. Ond cryfach arfer na dysg: yn raddol gwelid ei wyneb eilwaith yn ei rodfeydd; ymwelai âg arwydd y " Bedol " yn achlysurol; ail ymwrolodd i gysuro y gwau ei feddwl, ac i sôn "am danom ni y ffarmwrs yma." Un diwrnod, tra yr oedd Hywel yn adrodd y geiriau hyn wrth un o ffermwyr ceirch godreu mynydd Hiraethog, pwy ddygwyddai fod mewn congl o'r ystafell, ac yn anweledig i Hywel, ond yr amaethwr Harri ab Sion, yr hwn a hiraethasai er's talm am gyfle i ddweyd ei brofiad wrtho. "Dal dy dafod, Hywel," ebai o, "y ffwlach penwan, ai tybied yr ydwyt fod pobl i'w cael mor ffol a thithau, trwy gredu dy gelwyddau dybryd? Yr wyf yn dy adwaen yn rhy dda, Hywel, er's blynyddau bellach. (Hywel yn cochi.) Carwn wybod yn mh'le mae dy fferm di yn sefyll. (Hywel yn glasu.) Y ffordd fawr, debyg gen' i. Yn mh'le mae dy anifeiliaid di, Hywel ? y tri mul hyny sydd wedi byw ar hyd eu hoes ar fy mhorfa i? a dy blant sydd yn' edrych ar eu holau yn îs anifeiliaid na hwythau — mor ddifoes a diddysg ag un asyn yn y byd. Ni weithi dy hun, eithr gyri dy blant truenus i enill dy fwyd a dy ddiod trosot. (Hywel yn codi i wadu yr haeriad, ac yn