Tudalen:Cymru fu.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael fod ei dafod jn 'cau gweithio; eistedd i lawr mewn cywilydd.) Y maent yn tyfu i fynu fel mwnciod, yn gorachaidd, dilun, ac anhawddgar. Y maent yn haner rewi ar gefnau y mulod, ac y mae'r gair iddynt roddi gwrychoedd pobl ar dân, er mwyn meirioli tipyn ar fêr eu hesgyrn; pryd y dylasent fod yn yr ysgol, yn darpar at dreulio oes mewn rhyw gylch uwch na gyru mulod. Cyn yr ymddygaswn fel tydi, Hywel, at fy mhlant, cawsai fy nwylaw eu gorchuddio â chyrn, a buasai yn well genyf i'r hen freichiau yma wywo wrth fy ystlysau, nag yr ymddygaswn tuag at fy mhlant fel y gwna yr estrys tuag at ei chywion. (Cymeradwyaeth dirfawr oddiwrth yr holl gwmpeini.) Pe buasai pawb fel ti, Hywel, ni buasai genym fel cenedl na phregethwr, na bardd, nac athronydd, nac ysgolor o un math; ac ni buasem nemawr gwell ein gwareiddiad na bwystfulod yr anialwch. Tafl dy rodres a dy frol i'r gwynt, torcha dy lewys, gweithia am dy damaid, ac anfon dy blant am flwyddyn i ryw ysgol, os oes ysgolfeistr yn y wlad gymer arno y dasg o addysgu barbariaid o'u bath."

Dyna ddigon. Ymlithrodd Hywel allan mor ddystaw a phryf genwair, ac ni welwyd ef mwyach yn mharlwr y "Bedol;" ond gellid ei weled am bump yn y bore yn parotoi fel dyn arall at waith. Gwerthwyd yr anifeiliaid am brisiau eu crwyn, a thalwyd am eu blingo allan o hyny, a gwnaeth Syr Hywel anrheg o'i ystad i hen wragedd tlodion allent fforddio cael buwch, er mwyn enill bywioliaeth oddiwrth ei llaeth a'i hymenyn, ac i'r llencyn diffrwyth ac amddifad allai enill ei damaid oddiwrth y drol ful. Anfonwyd y plant i'r ysgol, a chynyddasant mewn gwybodaeth a rhinwedd; llanwasant swyddau pwysig, a buont feirw, fel eu tad, mewn oedran teg. Teimlai Hywel yn ddiolchgar byth i Harri ab Sion; oblegyd priodolai ei ddiwygiad i'w gynghorion ffraethlymnion ef.

Os dygwydd i'r chwedl hon gyfarfod y dyn hunanol ac ymhongar, hyderwn y bydd yn foddion i ddysgu iddo y wers seml a gwerthfawr hono, "nad yn ol ein pwysau ein hunain y'n pwysir gan eraill," ac nad yw gwir yn llai gwir er ei adrodd mewn geiriau pigog; ac y gwasga ar rieni y ddyledswydd o roddi addysg i blant, hyd yn nod pe costiai hyny iddynt ambell bryd o fwyd, a llawer awr o gysgu.