Tudalen:Cymru fu.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SYR LAWRENCE BERKROLLES AC OWEN GLYNDWR.

Pan oedd Owen Glyndwr yn ymdaith hyd y wlad ar ddull "boneddwr dyeithr, a chydag ef un cyfaill cywir wedi ymwisgo ar agwedd gwas iddo; a chan fod yn beryglus y pryd hwnw dwyn arfau o un math, yr oeddynt eill dau yn anarfog. ac yn myned oddiamgylch er gwybod tueddiadau gwleidyddol y bobl. Daethant hyd at gastell Syr L. Berkrolles, a deisyfodd Glyndwr yn Ffrancaeg am lety noson i'w was ac yntau. Caniatawyd hyn yn rhwydd, a goreuon y castell a roddwyd at ei wasanaeth; ac mor fawr ydoedd caredigrwydd Syr Lawrence, fel y deisyfodd ar y rhyfelwr enwog dario gydag ef am ychydig ddyddiau, a chwanegai ei fod yn disgwyl y byddai Owen Glyndwr yno gyda hwynt yn fuan; " canys yr wyf wedi anfon tenantiaid, a gweision, a llawer o ddynion ymddiriedus eraill, tan lŵ, i'w ddal, a'i ddwyn yn ddiogel i'r castell hwn, yn fyw neu yn farw." "Gorchwyl da iawn fyddai dal y gŵr hwnw," ebai Owen, "pe bae rhywun yn abl i wneuthur hyny." Pa fodd bynag, wedi aros o Owen yn y castell am dridiau neu bedwar, tybiodd mai doethineb ydoedd ymadael; ac wrth ffarwelio â Syr Lawrence, efe a'i hanerchodd fel hyn: — " Y mae Owen Glyndwr, fel dyn cywir-galon, heb falais na brâd yn ei fynwes, yn rhoddi ei law i Syr Lawrence Berkrolles, ac yn diolch iddo am y caredigrwydd a'r croesawiad boneddigaidd a dderbyniodd ef a'i gyfaill oddiar ei law yn y castell; ac y mae efe hefyd yn myned ar ei Iŵ, law yn llaw, a llaw ar galon, na bydd iddo byth feddwl dial bwriadau Syr Lawrence Berkrolles ond yr amcana eu dileu oddiar ei gof ei hun, a'u celu oddiwrth ei berthynasau a'i ddilynwyr. "Yna Owen a'i gyfaill a ymadawsant; eithr Syr Lawrence a darawyd yn fud gan syndod, ac ni ddaeth mwyach air dros ei wefusau. — Iolo Manuscripts.

YSTORI DOCTOR Y BENBRO

.

FEL yr oedd lluaws o bobl Llanfair Bont Stephan yn Neheubarth Cymru yn dychwelyd o Ffair Talsarngrin tan ymgomio yn nghylch trafferth anfuddiol rhyw ofer-