Tudalen:Cymru fu.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddynion afradus nad arbedrnt gost i fagu a dwyn i fynu yn foethus haid o helgwn barus er mwyn y coegddifyrwch o hela, un a'i enw Gwalchmai a ddywedodd: — " Nid heb achos ynte y clywais ddarfod i'r brenin Pabo, o wlad Fon, dori agos ar ei draws wrth chwerthin am ben y segurwyr hyn." Cynhyrfodd y dywediad hwn gymaint ar chwilfrydedd cydymdeithion Gwalchmai, nes yr atolygasant arno adrodd y chwedl a barasai i ŵr mor enwog a Phabo chwerthin felly.

Ebai Gwalchmai: "Yn y wlad hono yr oedd physigwr nodedig; rhemwth afler o garn Sais, coesgam, annghymroaidd ydoedd, mor ddibris o fywyd dyn ag o fywyd chwanen, a adwaenid wrth yr enw " Doctor y Bendro."Hwn a gymerai arno wneud pob gwallgof a ddygid ato mewn hyn a hyn o amser yn holl iach. Ei ffordd ef o'u trin oedd fel hyn: Yr oedd ganddo yn un pen i'w dŷ ystafell fawr, ac yn hono yr oedd trochlyn o ddwfr budr, drewedig, ac yn nghanol hwnw y rhwymai efe y rhai gwallgofus wrth bost yn gwbl noethion; rhai o honynt hyd eu gliniau, rhai hyd eu bogeiliau, a rhai yn ddyfnach fyth, yn ol graddau yr afiechyd. Ni chaent ddim lluniaeth, oddieithr tair llwyaid o gawl erfìn, neu botes gwyn bach, unwaith bob wyth awr a deugain. Yn y dwfr hwnw goddefent newyn, rhyndod, a drygsawr, nes adferu iddynt eu cof a'u synwyr, neu farw o honynt tan y driniaeth.

"Yn mysg eraill, dygwyd i'r gwallgofdy un Gwion Gwag Siol, yr hwn a roddes efe yn y pwll hyd haner ei forddwyd; ac wedi bod yno yn daru fwydo am bythefnos, efe a ddechreuodd wella. Yna efe a ymbiliodd ar y Doctor am genad i ddyfod o'r pwll, a chafodd ei ddymuniad ar yr amod na byddai iddo fyned allan o'r ystafell; ymfoddlonodd yntau i hyny yn ddiolchgar iawn dros rai dyddiau. Yna deisyfodd gael rhyddid i fyned hyd y tŷ. Caniatawyd hyny iddo, trwy nad elai allan a'r drysau.

"Ryw dro, pan oedd Gwion yn sefyll yn mrig yr hwyr wrth ddrws y tŷ, canfu ŵr ieuanc lled foneddig yn marchogaeth tuag ato ar glamp o geffyl, a gwalch yn un llaw, a phastwn hir yn y llall, dan groch floeddio a chwibianu, a llu o filgwn, cystowgwn, ysbaingwn, corgwn, a mân ddrewgwn eraill ar ei ol; ac o hirbell yn eu dilyn yr oedd tri o wŷr traed — gwehydd, eurych, a chrachuchelwr, wedi i sŵn y corn eu tynu yn y bore oddiwrth eu gorchwylion, yn rhedeg yn fawr eu chwys, a'u traed trwy eu hesgidiau, i gael rhan o'r difyrwch.