Tudalen:Cymru fu.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Nid oedd Gwion yn cofio dim o'r pethau a welsai gynt cyn anmhwyllo, a synai yn aruthr at yr olygfa ryfeddol hono. Galwodd y gŵr ieuanc ato, yr hwn pan neshaodd, 'Gwrando'r glanddyn,' ebai Gwion, ' ac ateb i mi gwestiwn neu ddau. Pa fwystfil ffromwyllt sydd genyt yna yn marchogaeth arno? ac i ba bwrpas yr ydwyt yn ei gadw?

'March ydyw,' ebai y gŵr ieuanc, ' ac er mwyn y dyfyrwch rhagorol o helwriaeth yr ydwyf yn ei gadw.'

" 'Aie mewn difrif!' ebai Gwion, 'a pha fodd y gelwid y tegan yna sy'n dy law di? a pha beth yw ei ddyben?"

" 'Gwalch ydyw, 'meddai y llall,' defnyddiol iawn at ddal petris, a grugieir coesgochion, a hwyaid gwylltion.'

" ' Hy!' ebai Gwion, ' ond pa beth yw'r haid creaduriaid bolweigion eraill yna sy'n dy ganlyn di, a rhes o fotymau yn tyfu hyd eu cefnau, a'u hystlysau yn debyg i ochr basged, ac i ba beth y maent hwy'n dda?'

" 'Cŵn ydynt,' ebai y llall, "o bob math, ac o'r rhywogaeth oreu yn Nghymru, wedi i mi fy hunan, trwy fawr gôst a gofal, eu dysgu'n rhagorol i olrhain adar a phryfaid gwylltion, trwy ddŵr a thân, gelltydd a choedydd, anialwch a dyrysni. Dyma di-i chwpl o fytheuaid o lin cŵn goreu Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, heb eu gwell yn y wlad at geinach a chadno, dyfrgi a ffwlbart, bronwen a thwrch daear. Dacw ddau gwbl o ddaeargwn o waed digymysg, tu tad-tu fam, o hiliogaeth y cŵn goreu a fu erioed ar helw Rhys ab Tewdwr Mawr o'r Deheu barth. Hen orwyr y milgi acw a gafodd fy nhaid i gau orwyr i un o ŵyrion Cadrod Hardd, arglwydd Talebolion, yn Môn. Yr adargi yna a ddanfonwyd i mi o Wlad yr Haf gan Syr-....'

" 'Ust! Ust!' ebai Gwion, ' digon bellach am achau, bonedd, a gwaedoliaeth dy helgwn. Moes wybod pa faint a dâl yr adar a'r pryfaid hyny yr wyt yn ceisio cynifer o bethau i'w hela, pe bwrit holl helwriaeth y flwyddyn gyda'u gilydd?'

" 'Pw!' ebai'r heliwr, 'nis gwn i'n iawn pa faint;' a phan ddywedodd mai prin y cyrhaeddai werth coron o arian,

" Gwaed fy nghadach,' ebai Gwion, a pha faint y mae cadwriaeth y march, y gwalch, a'r holl lumangwn gwancus yna yn ei gostio i ti?' " ' Dim llai," ebai'r heliwr, ' na chant a haner o bunau, heblaw ambell bunt am ormes y cŵn pan hiraethont, druain, a damaid anmheuthyn, ac yr elont i wledda ar ddefaid y cymydogion."