Tudalen:Cymru fu.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

" 'Ho! Ho!' ebai Gwion, 'y mae dy goryn di wedi ei glwyfo'n greulon, y cyfaill penchwiban! Os ceri dy hoedl, dos ymaith o'r fangre hon mor gynted fyth ag y gelli, cyn dyfod y Doctor adref; oblegyd os efe a'th ddeil di yma, efe a'th gyfrif y cadffwl ynfataf ar wyneb y ddaear, wedi i'r bendro wibwrn dy bendifadu, a chorddi dy ymenydd yn lasddwr. Oni ddiengi ar frys yma y bydd dy lety, a chadwynir di yn ddiatreg yn y pwll tomlyd, ffieiddfrwnt, yn mysg llaweroedd a boenir yno eisioes; îe, rhoddir di yn ddyfnach yno na hwynt oll, rhwymir di yn ddidrugaredd hyd yr ên yn y ceubwll aflan. Ac os dy dynged fydd cael dy fwrw i mewn, fel yr haeddit yn fwy na neb, efallai y caniatâ y Doctor un ffafr arbenig i ti, trwy dy fod yn ddarn gŵr boneddig sef cael o honot gymdeithas dyddan dy gŵn o'th amgylch yn mhwll y caethiwed; ac os marw a wnei, fel y mae yn dra thebygol, cyn adferyd it' dy synwyrau, nid cysur bychan fydd i ti gael y cyfryw gymdeithion ffyddlon i gyd-byncio dy farwnad, a llafar-udo dy glul pan fyddych yn trengu.' "

— Tlysau yr Hen Oesoedd.

CHWEDL RHITTA GAWR

.

DAU frenin a fu gynt yn Ynys Prydain, sef oedd eu henwau Nynniaw a Pheibiaw; a'r ddau hyn yn rhodio'r maesydd ar un noswaith oleu, serenog, ebai Nynniaw: "Gwel pa ryw faes helaeth a theg sydd genyf fi."

Peibiaw. "Yn mh'le y mae?"
N. "Yr holl wybren."
P. "Gwel dithau y maint o ddâ a defaid sydd genyf fi yn pori yn dy faes di."
N. "Yn mh'le y maent?"
P. "Yr holl sêr a weli di, yn aur tanlliw bob un o honynt, a'r lleuad yn fugail arnynt, ac yn eu harail."
N. "Ni chant ddim aros yn fy maes i."
P. "Hŵy a gânt."
"Na chant," ebai y llall, wers-tra-gwers, onid aeth hi yn gynhen gwyllt a therfysg rhyngddynt; ac yn y diwedd, o ymryson, myned i ryfel ffyrnig, oni laddwyd gosgordd a gwlad y naill a'r llall yn agos oll yn yr ymladdau.