Tudalen:Cymru fu.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy farwolaeth Owen, oddiwrth ei Iŵ o ffyddlondeb. Datguddiodd iddynt yr hanes oll, ac arweiniodd hwy at y ceubren, lle cafwyd esgyrn Hywel a'i gleddyf yn ei law ddeau. Claddwyd ef yn mynachlog gymydogaethol y Cymer, yn ol defodau y grefydd Babaidd, a chyflawnwyd gwasanaeth yr offeren, er mwyn rhoddi gorphwysfa i'w yspryd digofus; ond credai y werin bobl yn gadarn, am ugeiniau o flynyddau ar ol hyn, fod yspryd Hywel Sele, yn nghwmni lluaws o gyffelyb ddigofus ysprydion, yn ddiorphwys, ac yn mynychu Ceubren yr Ellyll, pa bryd bynag y caent gefn yr haul.

Y DERWYDD

.

[Yr ydym yn codi y dernyn canlynol o'r Greal, un o'r lluaws cyhoeddiadau rhagorol a ddygwyd allan dan nawdd, a chydag arian, Cymdeithasau y Gwyneddigion a'r Cymreigyddion yn Llundain. Ymddangosodd y Greal hwn yn y fl. 1805, agos i driugain mlynedd yn ol. Ei olygyddion oeddynt y gwladgarwyr anfarwol Owain Myfyr a'r Dr. Owen Pughe, y rhai a wnaethant fwy nag odid neb ar ran ein llenyddiaeth genedlaethol. Arbedasant rhag difancoll gynseiliau hanes y genedl fedd yr hen hanes cyfoethocaf o holl genedloedd gogleddbarth Ewrop, trwy gyhoeddiad, o hen lawysgrifau, y Myyyrian Archaeology. Arian Myfyr, ac athrylith y Dr., fu yn foddion i ddwyn y llyfr anmhrisiadwy hwn trwy y wasg y tro cyntaf. Achlesent eu cyd-genedl ar eu mynediad i'r Brifddinas, a chwilient am sefyllfaoedd cyfaddas iddynt; anfonent arian i gynorthwyo beirdd hen a methiantus yn Nghymru; cyhoeddent wobrau ar destunau cenedlaethol, er mwyn adfywio yr awen Gymreig; ac ystyir yr hanesyddiaeth sydd yn eu cyhoeddiadau yn safon gan lenyddion yr oes annghrediniol hon. Maddeuer i ni am droi oddiâr ein llwybr i daflu blodyn ar fedd dynion y dylem anrhydeddu eu coffadwriaeth — dynion fuasent yn addurn i unrhyw genedl dan haul.]

" Pan oedd cleddyf anorchfygol y Rhufeiniaid gwedi treiddio i eithafoedd pellaf Prydain, ac wedi gorllifo ei meusydd gleision â gwaed y godidocaf o'i haerwyr, Modred y doeth a chwiliodd am achles rhag gwythlondeb