Tudalen:Cymru fu.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfel. Yr oedd ef yn Dderwydd clodfawr oherwydd ei dduwioldeb a'i ddoethineb; ond, ysywaeth, ei dynged oedd iddo fyw i weled yr allor sanctaidd yn cael ei thaenellu â gwaed ei duwiol offeiriaid, a'r llwyni cysegredig jn cael eu halogi â thrythyllwch cadgwn creulawn anniwair. Y lloches a ddewisodd oedd ogof eang, wedi ei rhanu gan ddwylaw anian yn amrywiol ystafelloedd. Yr oedd y llwybr tywyll, graddol-estynedig, yn tywys iddi; ac oherwydd ei afrifed ddyrys gylchdroadau, yr oedd yn anhygyrch i bawb ond y sawl yr oedd llaw garedig y Derwydd yn eu harwain; felly, yr oedd y lle dirgel hwn yn noddfa i ddiniweidrwydd a rhinwedd. Yma yr oedd y wyryf ieuanc dyner yn ffoi rhag llathrudd, a'r wraig ddiwair rhag trais y gelynion; ac yma yr oedd y weddw a'r ymddifad yn ceisio diogelwch a chysur; yma hefyd yr oedd yr hen filwr dewrwych yn troi yn archolledig o'r frwydr, ac wedi ei iachau trwy dduwiol ofal y Derwydd, yn dychwelyd i'r ymladdfa gyda nerth a grym adnewyddol. Bob bore a hwyr y gwelid Modred yn ymgrymedig dan gyssegr-lwyn o dderwag oedd yn addurno y fron gerllaw ei drigfan ef: yno yr adeiladodd allor gysegrlan, ac yn ol arfer ei ddoeth a'i ddysgedig hynafìaid, a osododd arno offrwm sanctaidd o flawd. Wele, dyma fel yr oedd yn treulio ei ddyddiau mewn gweddi, myfyrfod, ac elusengarwch; ei ddiod oedd y dwfr o'r ffrwd ddysglaer ag oedd yn tarddu o'r graig, yn mha un yr oedd anian wedi llunio ei anedd ddiaddurn; a'i fwyd oedd y llysiau iachus oeddynt yn tyfu oddiamgylch ei breswylfod. Cyfryw a hyn oedd Modred y Derwydd, yn ymddygiad pa un yr oedd yn gysylltiedig ddiniweidrwydd mabandod a doethineb henaint.

"Un diwrnod, fel ag yr oedd yn crwydro yn mhellach na garferol i chwilio am lysiau meddyginiaethol, dygwyddodd iddo sylwi bod y ddaear gwedi ei mannu âg amryw ddefnynau o waed; ac wrth ganfod, ychydig o gamrau yn mhellach, bod y defnynau yn fwy ac yn amlach, ei hynawsedd a'i cymhellodd i'w dilyn. Hwy a' iharweinias ant ef i fan lle yr oedd dyn mewn arfwisg yn gorwedd yn estynedig ar y llawr. Yr oedd yn edrych fel pe buasai mewn llewyg; ac fel ag yr oedd ei wyneb yn ddiorchudd, canfu Modred ei fod yn mlodau ei ieuenctyd.

" Yr oedd y Derwydd yn gwybod wrth ei arfwisg ei fod yn perthyn i fyddin y Rhufeiniaid; ond tosturi tuag at y cyflwr gresynus a diymadferth ag yr oedd ef yn ei weled yuddo, a wnaeth iddo annghofìo yn union ei holl elyniaeth;