Tudalen:Cymru fu.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fe a'i cyfododd ef yn ei freichiau, fe dywalltodd idd ei enau sychedig y meddyglyn adfywiol a oedd yn wastad yn ei ddwyn gydag ef, ychydig ddefnynau o ba un a'i hadfywiodd yn rhyfeddol; ond eto er hyn, yr oedd ef mor dra llesg a dirym, oherwydd iddo golli cymaint o waed, a bod iddo, er gwaethaf ei holl ymgais, fethu codi ar ei draed. Modred, pan ganfu y dyeithrddyn yn analluog i gyfodi heb ryw gymhorth mwy nag a allai ef weinyddu iddo ei hun, a brysurodd i'w ogof, ac a ddaeth yn ol yn ddiatreg a llanc ieuanc a elwid Gwydyr gydag ef. "Gwydyr oedd y gwrolaf o holl ieuenctyd Prydain a ddyrchafasant y cleddyf yn eofn a diarswyd i amddiffyn Rhyddid. Yr oedd anian wedi ffurfio ei gorph ef yn ei dull perffeithiaf, a gwedi rhoddi i'w ymarweddiad y fath foddusrwydd ag y mae celfyddyd yn fynych yn nacau i'w hanwylaf addurnwyr. Yr oedd gwedi rhoddi prawf o'i wroldeb mewn amryw o frwydrau a ymladdodd yn erbyn y gelyn cyffredin; ond yr oedd ei wrhydri bob amser yn unedig â hynawsedd a haelio ni. Gyda chymhorth yr arwrwas hwn y dygwyd y dyeithrddyn i ogof Modred; ond oherwydd mai Rhufeinydd oedd, hwy yn gyntaf a gymerasant ofal i roddi mwgwd arno ef, rhag iddo ddysgu y ffordd i'w hymguddia, a bod gwedi hyny yn foddion i'w niweidio.

"Gwedi ei ddwyn ef i'r ogof, hwy a gymerasant y mwgwd oddiar ei lygaid, a dattodasant ei arfwisg, ac a'i gosodasant ar Iwyth o fwswg esmwyth; yna y Derwydd a olygodd ei weliau ef, ac a ganfu y gellid, gydag ychydig o ofal, eu hiachau mewn byr amser; a gwedi gosod arnynt ryw lysiau o rinwedd diballadwy, efe a'i gadawodd dros ychydig i orphwyso. Ar ol treigliad o gylch awr, ailymwelodd âg ef, ac efe a gafodd y dyeithr gwedi dadebru cymaint trwy y feddyginiaeth a weinyddwyd i'w archollion ef, yn nghyda'r ychydig gwsg esmwyth o ba un deffrowyd ef ar ddyfodiad Modred i mewn, a'i fod yn gallu gofyn mewn liais isel a llesg i ddwylaw pwy yr oedd gwedi syrthio; ond pan gyntaf y deallodd mai Prydeiniaid oeddynt, fe ddangosodd ei wynebpryd nad oedd yn dysgwyl ond ychydig o drugaredd oddiar eu dwy- law. Y Derwydd, gan ddyfalu pa beth oedd yn treiglo yn ei feddwl, a ymegniodd i chwalu ymaith ei holl ofalon a'i ddrwg-dybiadau, fel hyn: — " Y gŵr ieuanc," ebai ef, "yr wyt yn nwylaw y rhai hyny ag y mae dy genedl di yn alw yn ddynion gwylltion; ond er mai dyeithriaid ydynt i'r celfyddydau golygus hyny a arferir gan genedloedd