Tudalen:Cymru fu.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Baedd yn Nghemyw, a chwareu oedd y drafferth. pan gafwyd y tlysau wrth yr hyn a gafwyd pan yn ceisio y crib. Ond o'r naill drafferth i'r llall cafwyd ef o'r diwedd. Yna ymlidiwyd ef o Gernyw, a gyrwyd ef i'r dyfnfor; ac ni ŵyr neb hyd y dydd hwn i ba le yr aeth efe; ac Aned ac Athlem gydag ef. Yna aeth Arthur i'r Gelli Wig, yn Nghernyw, i ymeneinio, ac i orphwys oddiwrth ei lafur.

Ac ebai Arthur, "A oes rhai o'r rhyfeddolion eto yn eisieu? "Y mae eto yn eisieu Waed y Wyddones Orddu, merch y Wyddones Orwen o Ben Nant Gofid ar gyffiniau uffern." Cychwynodd Arthur tua'r Gogledd at y lle yr oedd ogof y Wyddones. A chynghorwyd ef gan Gwythyr ab Greidawl a Gwyn ab Nudd i anfon Cacmwri a Llygwydd i ymladd a'r Wyddones. Ac fel yr elynt i'r ogof, rhuthrodd y Wyddones arnynt, a daliodd Llygwydd gerfydd gwallt ei ben, ac a'i taflodd ar lawr o tani. A gafaelodd Cacmwri yn ngwallt ei phen hithau, ac a'i llusgodd oddiwrth Hygwyd; eithr hi a ymosododd arnynt dra- chefn, ac a'u gyrodd eill dau allan, gan eu troedio a'u dyrnodio.

A llidiodd Arthur wrth weled ei was wedi ei haner ladd, a bwriadodd yntau fyned i'r ogof; eithr Gwyn a Gwythyr a ddywedasant wrtho, "Nid gweddus na phriodol genym dy weled yn ymryson â gwrach. Gad i Hiramren a Hireidil fyned i'r ogof." Felly hwy a aethant. Eithr os mawr fu trafferth y ddau gyntaf, llawer mwy fu rhan y ddau hyny. A'r nefoedd ŵyr nis gallai yr un o'r pedwar symud o'r fan hyd oni roddwyd hwy ar gefn Llamrei, caseg Arthur. Yna rhuthrodd Arthur at ddrws yr ogof, a tharawodd y Wyddones gyda Chaerwenau ei ddagr, ac a'i holltodd yn ddwy, nes y syrthiodd i'r llawr yn ddau haner. A chymerth Caw o Ogledd Prydain waed y Wyddones, ac a'i cadwodd.

Yna cychwynodd Cilhwch, a chydag ef Goreu ab Cystenin, a'r sawl a ewyllysiant niwaid i Yspaddaden Pencawr, a chymerasant y rhyfeddolion gyda hwynt i'w lys. A Caw o Ogledd Prydain a eilliodd farf, croen, a chnawd Yspaddaden yn lân at yr asgwrn, o glust i glust. " Aeilliwyd ti, ddyn? " ebai Cilhwch. "Eilliwyd," ebai yntau, "Ai eiddof fi dy ferch yn awr?" "Dy eiddo ydyw," ebai yntau, " ac nid i mi y rhaid it' ddiolch am hyny, eithr'i Arthur yr hwn a gafodd y rhyfeddolion i ti. O'm rhan i ni chawsit fy merch byth; oherwydd wrth ei cholli hi yr wyf fi yn colli fy mywyd." Yna Goreu ab Cystenin a afaelodd ynddo gerfydd gwallt ei ben, a'i llusgodd