Tudalen:Cymru fu.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oddiyno yr aeth efe i Lwch Ewin, ac Arthur a'i goddiweddodd yno, ac efe a wrthsafodd. Ac yno y lladdodd Echel Fordwytwll, a Gorwyli ab Gwydawg Gwyr, a lluaws o wŷr ereill a chŵn. Oddiyno aethant i Lwch Tawy, a gadawodd Grugyn hwynt yno ac a aeth i Din Tywi; ac oddiyno i Geredigiawn, ac Eli a Trachwyr ar ei ol gyda thyrfa fawr. Oddiyno i Garth Gregyn, ac yno Llwydawg Gofyngad a ymladdodd yn eu canol, ac a laddodd Rhudfyw Rhys, a llawer eraill heblaw hyny. Oddiyno aeth Llwydawg i Ystrad Yw, ac ymosododd gwŷr Llydaw arno, ac efe a laddodd ohonynt Hirpeisawg brenin Llydaw, a Llygatrudd Emrys, a Gwrhothu, ewythriaid Arthur, a lladdwyd yno Llwydawg hefyd.

Oddiyuo aeth y Twrch Trwyth rhwng Tawy ac Euryas, a gwysiodd Arthur wŷr Cernyw a Dyfneint ato i Aber Hafren, ac anerchodd fìlwyr yr ynys: — " Twrch Trwyth a laddodd lawer o'm gwŷr, eithr yn enw y cedyrn, nid aiff efe i Gernyw a minau yn fyw. Ac nid ymlidiaf ef yn rhagor, eithr ymladdaf âg ef fywyd am fywyd, gwnewch chwi a fynoch." Ac efe a anfonodd gad o fìlwyr yr Ynys gyda chŵn mor bell a Euryas, y rhai oeddynt i'w ymchwelyd at Hairen, al holl filwyr profedig i amcanu ei wthio i'r afon hono.

A Mabon ab Modron a'i goddiweddodd gerllaw Hafren ar Gwyn Mygddon, march Gweddw, a Goreu ab Cystenin, a Menw ab Teirgwaedd; cymerodd hyn le rhwng Llyn Lliwan ac Aber Gwy. A syrthiodd Arthur arno gyda phencampwyr Prydain. A Osla Gyllellfawr a Manawyddan ab Llyr a ddynesasant ato, a Cacmwri gwas Arthur, a Gwyngelli, a ruthrasant arno, gan ei ddal gerfydd ei draedyn gyntaf a'i daflu i'r Hafren, a'i ddymchwelyd yno. Ai- y naill ochr Mabon ab Modron a ysbardynodd ei farch ac a gipiodd yr ellyn oddiarno, a Gelydr Wyllt ar y llaw arall, ar farch yn y dwfr, a gafodd y gŵellaif. Eithr cyn cael ohonynt y crib, adfeddianodd ei draed, ac o'r awr y cyrhaeddodd y lan, nid oedd ŵr, na chî, na march allent ei oddiweddyd hyd oni ddaeth i Gernyw. Os cawsant drafferth yn dwyn y tlysau oddiar y Twrch, cawsant lawer mwy wrth arbed y ddau ŵr rhag boddi. Fel y tynent Cacmwri allan, dau faen melin a'i llusgent i'r dyfnder. Ac fel y rhedai Osla Gyllellfawr ar ol y Baedd, llithrodd ei gyllell o'r wain, a chollodd hi; ac ar ol hyny llanwyd y wain gan ddwfr, a'i phwysau a'i llusgodd i'r dyfnder, fel mai gydag anhawsder y tynwyd ef allan.

Ac Arthur a'i lluoedd a deithiasant i oddiweddyd y