Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cynllun iaith Gymraeg

Paratowyd yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Cafodd y cynllun hwn ei gymeradwyo’n llawn gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym Mis Mawrth 2010. Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Cynnwys
1. Cyflwyniad
2. Safon y Gwasanaeth
3. Goblygiadau ar gyfer gwaith Polisi a Deddfwriaeth
4. Cyflawni’r Cynllun
5. Darparu Gwasanaethau i’r Cyhoedd yng Nghymru
6. Hunaniaeth a Delwedd Gorfforaethol Swyddfa Cymru
7. Gwasanaethau a Ddarperir ar ein Rhan gan Sefydliadau Eraill
8. Gweithredu’r Cynllun
9. Amserlen
10. Monitro’r Cynllun ac Adrodd am Berfformiad
11. Rhoi Cyhoeddusrwydd i’r Cynllun
12. Cwynion

Cyflwyniad

Mae Swyddfa Cymru yn cefnogi Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni ei swyddogaeth o gynrychioli Cymru yn Llywodraeth y DU, cynrychioli Llywodraeth y DU yng Nghymru, a sicrhau bod y drefn ddatganoli yn gweithio’n ddidrafferth yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2003, daeth y Swyddfa dan ymbarél yr Adran Materion Cyfansoddiadol, ac yna’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn 2007. Mae’r Cynllun hwn yn berthnasol i Swyddfa Cymru yn unig, ac mae’n adlewyrchu ein cyfrifoldeb penodol dros faterion sy’n ymwneud â Chymru, a’n hatebolrwydd uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae Cynllun Iaith Gymraeg ar wahân ar gyfer y Weinyddiaeth Cyfiawnder a’i chyrff perthynol eraill.

Mae’r rhan fwyaf o’r swyddogaethau gweithredol hynny a oedd, cyn 1 Gorffennaf 1999, yn gyfrifoldeb i Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth