Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Swyddfa Cymru yn gwireddu’r ymrwymiadau a nodwyd yn y cynllun hwn. Cyn gweithredu’r Cynllun bydd staff yn cael canllawiau ysgrifenedig yn nodi’r camau y dylent eu cymryd er mwyn gweithredu’r cynllun hwn. Bydd y gwaith o ddatblygu polisi iaith Gymraeg ar gyfer cyhoeddi ar y we, y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 5.12, yn cael ei gwblhau cyn pen chwe mis ar ôl i’r Cynllun gael ei gymeradwyo.

Monitro’r Cynllun ac Adrodd am Berfformiad

Byddwn yn monitro ein perfformiad o ran bodloni’r ymrwymiadau a wnaethpwyd yn y cynllun hwn ac wrth gyflawni’r amserlen ar gyfer y newidiadau. Bydd penaethiaid pob Adran a Changen neu uned weithredol arall yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw ynghylch sut y maent yn cydymffurfio â’r cynllun ac am unrhyw gwynion am achosion lle methodd Swyddfa Cymru â darparu lefel foddhaol o wasanaeth yn Gymraeg. Cesglir yr wybodaeth hon gan y Gangen Gwasanaethau Corfforaethol a chânt eu cynnwys yn yr adroddiadau bob chwe mis i’r Bwrdd Rheoli.

Os nad ydym yn llwyddo i fodloni’r safonau gwasanaeth a nodwyd yn y cynllun hwn, bydd yr adroddiadau’n esbonio’r rheswm am hyn. Bydd copïau o’r adroddiad yn cael eu hanfon i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Hefyd, ar gais Bwrdd yr Iaith Gymraeg, bydd Swyddfa Cymru yn adrodd am ein cynnydd wrth weithredu’r cynllun hwn.

Rhoi Cyhoeddusrwydd i’r Cynllun

Bydd y cynllun ar gael yn ddi-dâl ac yn ddwyieithog o’n swyddfeydd yn Llundain a Chaerdydd. Gellir gofyn am gopi mewn sawl ffordd:

Swyddfa Cymru
Tŷ Gwydyr
Whitehall