Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dogfen yn Gymraeg ac yn Saesneg, fel arfer bydd y ddwy fersiwn yn cael eu hymgorffori mewn un cyhoeddiad dwyieithog. Pan fydd ystyriaethau ymarferol, megis maint, yn golygu ein bod yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddwn yn sicrhau bod y ddwy fersiwn yr un mor hawdd i’r cyhoedd gael gafael arnynt a bydd y naill a’r llall yn cynnwys neges yn datgan bod y ddogfen ar gael yn yr iaith arall. Pan fyddwn yn codi tâl am gyhoeddiad dwyieithog, ni fydd y pris yn fwy na phris fersiwn uniaith o’r cyhoeddiad hwnnw. Pan fyddwn yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddant yn costio yr un faint.

Ni fyddwn yn cyfieithu dogfennau sy’n cael eu defnyddio’n fewnol yn bennaf ond y gallem eu darparu i’r cyhoedd os gofynnir amdanynt.

Ffurflenni

Pan fydd arnom angen cyhoeddi unrhyw ffurflenni i’r cyhoedd eu defnyddio, byddwn yn sicrhau bod y ffurflenni, ac unrhyw ganllawiau esboniadol sydd o bosibl yn cyd-fynd â nhw, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os bydd dogfen yn rhy hir neu’n rhy dew neu’n anodd ei phrosesu, caiff fersiynau ar wahân yn y Gymraeg a’r Saesneg eu cyhoeddi ar yr un pryd. Bydd yr un mor hawdd i’r cyhoedd gael gafael ar y ddwy fersiwn. Pan fydd ystyriaethau ymarferol, megis maint, yn golygu ein bod yn cyhoeddi fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân, byddwn yn sicrhau bod y ddwy fersiwn yr un mor hawdd i’r cyhoedd gael gafael arnynt a bydd y naill a’r llall yn cynnwys neges yn datgan bod y ddogfen ar gael yn yr iaith arall.


Datganiadau i’r Wasg

Byddwn yn darparu gwasanaeth newyddion ar ein gwefan Gymraeg. Bydd 50% o ddatganiadau i’r wasg yn ymddangos ar yr un pryd ar ein gwefannau Cymraeg a Saesneg, a 75% o fewn 24 awr.

Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i ddatganiadau i’r wasg yn Gymraeg sydd o ddiddordeb penodol i’r cyhoedd Cymraeg eu hiaith a/neu’n cynnwys elfen yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Bydd ein llwyddiant o ran cyflawni’r targedau hyn yn cael ei fonitro a’i gofnodi.