Tudalen:Cynllun iaith Gymraeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru ar ein rhan yn glynu wrth delerau’r cynllun hwn lle y bo’n berthnasol i’r gwasanaethau a gaiff eu darparu.

Bydd Swyddfa Cymry yn gofyn i drydydd parti ddarparu adroddiadau am eu perfformiad yn erbyn y cynllun hwn at ddibenion monitro, a byddwn yn cynnal arolygon cwsmeriaid ar hap i gadw golwg ar hyn.

Gweithredu’r Cynllun

Staffio

Mae 65 aelod staff yn gweithio yn Swyddfa Cymru, ac mae oddeutu tri chwarter ohonynt wedi’u lleoli yn Llundain. Mae oddeutu traean y staff ar fenthyg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chaiff y gweddill eu recriwtio a’u rheoli dan delerau ac amodau gwasanaeth y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

Caiff hysbysiadau recriwtio staff Swyddfa Cymru eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’r Weinyddiaeth Cyfiawnder, ill dau. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r ddau sefydliad i sicrhau bod hysbysiadau o’r fath yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog yn unol â’n Cynllun Iaith Gymraeg ni a’u cynlluniau nhw.

Penaethiaid Adran fydd yn ysgwyddo cyfrifoldeb dros ddweud wrth ein Cangen Adnoddau Dynol am anghenion ieithyddol eu Hadran a chadw golwg ar swyddi lle mae siaradwr Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol. Yr uwch dîm rheoli sydd â’r gair olaf o ran recriwtio ar gyfer pob swydd.

Hyfforddiant Ieithyddol

Mae Swyddfa Cymru yn ymrwymedig i annog staff i ddysgu Cymraeg ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant iaith er mwyn galluogi staff i weithio’n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn yn parhau i dalu costau hyfforddiant, yn ogystal â chynnig amser cyswllt a seibiant astudio gyda thâl i aelodau staff sy’n dilyn hyfforddiant o’r fath. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa’n flynyddol ac yn ystyried a oes