Tudalen:Daffr Owen.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a phan ar fedr mynd gwasgodd Miss Jessie arno gymryd bag a'i gynnwys oddiwrthi hi hefyd. Ac ymhlith llawer o bethau defnyddiol eraill yn y bag hwnnw, darganfu Daff ei hen bâr dillad wedi eu glanhau a'u cyweirio yn ofalus.

Wrth fynd allan o Frazer's Hope teimlai Daff ei fod nid yn unig wedi ennill cyfeillion trylwyr yn y pentref bychan, ond hefyd eu bod o'r fath nad aent yn y mymryn lleiaf rhyngddo a'i hunan-barch.

"Bendith ar eu pennau!" ebe fe. "Mi ddangosaf iddynt nad yw eu tosturi a'u hymgeledd wedi eu gwastraffu'n ofer." Yna fe gofiodd am eiriau'r Hen Lyfr,—"Bum newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd; noeth, a dilladasoch fi; bum ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi." Ac yn y meddwl hwn llanwyd ei galon a theimlad o'r tyneraf at y rhai oedd wedi bod mor dda wrtho yn ei ddydd blin.

Aeth yn ei flaen i Vancouver yn galonnog, ac efallai bod yr olwg daclus a oedd arno erbyn hyn wedi ei helpu i lwyddo yn y lle newydd hwnnw. Oblegid llwyddo a wnaeth, a hynny ymron ar unwaith.

Beth pe bai wedi mynd i mewn i'r lle yn y wedd y cyfarfu Miss Selkirk ag ef ar yr heol! Tebig iawn na byddai wedi ei gyflogi mor uniongyrchol, a dywedyd y lleiaf, oblegid yn Vancouver, fel pob man arall, y wedd allanol yw y tarawiad cyntaf.

Pan ymofynnodd ef yn y Stôr gyntaf am le ar y Staff digwyddodd iddo son am ei frawd yn Winnipeg, a'r rheswm iddo ddyfod ymlaen i Vancouver.

"A ddywedsoch chi mai brawd Mr. Wm. Owen, Winnipeg, ydych chwi? ebe'r perchennog.

Mewn atebiad tynnodd Daff lythyr ei frawd allan, ac estynnodd ef iddo.

Popeth yn dda, Mr. Owen," ebe'r gŵr. "Adnabûm lawysgrif eich brawd ar unwaith. Buom ein dau yn cydwasanaethu un adeg yn ystôr Hamilton a Hamilton, yn Chicago. Ac os ydych chi rywbeth yn debig iddo ef, gellwch eich ystyried eich hun ar ein Staff o'r foment hon. Pa bryd y byddwch chi'n barod i ddechreu ar eich gwaith?