XXXIII. TUA'R GOGLEDD
Y DYDD y cefnodd yr agerlong Baltimore " ar borthladd Vancouver gan droi ei phen tua'r gogledd yr oedd ar ei bwrdd y gymysgaeth fwyaf o ieithoedd a glybuwyd erioed oddiar amser Tŵr Babel. Arni yr oedd y Chiliad, y Perufiad, a'r Mecsicaniad, oll â'u hamrywiol geinciau o'r Ysbaeneg lefn. Yno hefyd y Cockney a'i Saesneg rhugl, yr Ysgotyn a'i acen arw, a'r Amercaniad a'i sain drwynol. Gerllaw, ond yn fwy distaw, yr oedd Iddewon eiddgar, ac yn eu hymyl yn ddistawach fyth, Gymro wrtho ei hun, yn edrych ac yn gwrando ar bopeth o'i gylch.
Ond er yr amrywiaeth iaith yr oedd unpeth ar y llong yn gyffredin i'r holl deithwyr,—sef y syched didor am aur. Ac am y rheswm mai o "helaethrwydd y galon y llefara'r genau"—boed y llefarwyr ar dir neu ar for—aur, ac eto aur, oedd pwnc yr ymddiddan yn yr ieithoedd i gyd. Amlwg i'r Cymro ar y bwrdd, sef oedd hwnnw, Daff Owen, nad oedd y cwmni yn un dethol iawn, ac o'r rhai a siaradai fwyaf am gloddio'r mwyn nid oedd dwylo'r un ohonynt yn dangos ôl llafur O unmath. Mynd yr oedd llawer ohonynt, nid i gloddio am yr aur, ond i flingo drwy hapchware y rhai a'i meddai. A buan y profwyd hynny, oblegid cyn gynted ag y gwellasant o glefyd y môr, ymgasglu yn finteioedd bychain o dan y bywydfad neu wrth fôn yr hwylbren a wnaent, gan geisio denu hwn a'r llall i ymuno â hwy i dorri'r cardiau. Anerchwyd Daff yn galonnog iawn gan un neu ddau o'r doniolaf ohonynt, ond yr oedd ef wedi gweld gormod o'r unrhyw dylwyth yn Winnipeg i syrthio'n ysglyfaeth rwydd, ac yn y diwedd fe gafodd lonyddwch.
Eraill ar y bwrdd oedd yn llawn cynlluniau o bob math. Iddynt hwy nid oedd y Chilcoot namyn tomen y wâdd, a Mwng y Ceffyl Gwyn ond rhywbeth i chware ag ef. Yr oeddynt eisoes yn "Y Gulch," yn rhofio'r aur fel y mynnent, a phob un ohonynt