Tudalen:Daffr Owen.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llwybr. Unwaith y digwyddodd hynny i Ddaff, a bu cryn orchwyl i'w gael ef a'i bwn yn ôl i'r heol iawn drachefn.

Cysgwyd yn dda wrth y Gors Fawr, ac yn gynnar y pedwerydd dydd tarawyd ar y llyn ei hun-y tri yn ddianaf, a'r eiddo oddieithr ychydig o fân golledion, yn ddiogel yn ymyl y babell ar lan y dwfr. Y noson honno talwyd i Ddaff y swm oedd ddyledus iddo, ac ychydig dros ben. Rhoddodd yntau ddangosiad amdanynt, a phan feddyliai ef fod ei fusnes â'r ddau ŵr boneddig ar ben boddlonwyd ef yn fawr gan gynnig neilltuol o du Mr. Bradbury.

"Beth yw'ch cynlluniau am y dyfodol, Owen?" ebe hwnnw.

"Wel, syr," ebe yntau.'Does obaith imi gyrraed dDawson am nad oes gennyf ymborth fel sy gennych chwi, foneddigion. Af yn ôl oddiyma i Ddyea, cariaf ychwaneg o lwythi os cyflogir fi, ac wedi hynny dychwelaf i Vancouver cyn dêl y gaeaf i gau popeth."

"A garech chi fynd i Ddawson?

"I hynny y deuthum allan, syr, ond beth 'wy'n well os na allaf symud cam?"

"Nid yw mor dywyll â hynny 'chwaith. Yr ydym wedi cydweithio'n rhagorol cyn belled, a bydd angen gwasanaeth un dyn arnom ninnau o hyn ymlaen.

Heblaw hynny, mae yn ein stoc ddigon o ymborth i dri yn ôl gofynion manylaf y Llywodraeth. Mewn gair, os gall Mr. St. Clair a minnau daro'r fargen â chi am fil o ddoleri a bwyd gaea dyna'r cynnig i chwi. Ystyriwch y peth heno, a rhowch wybod bore fory. Os cydsyniwch â'r telerau fe lofnodwn ar unwaith, a bydd popeth yn deg a rheolaidd o'r ddeutu. Yna fe wynebwn y gogledd yn galonnog cyn gynted ag y gallwn osod bad wrth ei gilydd."

"Diolch i chwi, foneddigion, a pha un bynnag a dderbyniaf y cynnig ai peidio, balchiaf yn eich meddwl da amdanaf."

"O'r gore. Nos Da!"

Ni chuddiai Daff oddiwrtho'i hun mai bywyd caled a gynigiai'r gogledd iddo. Profodd beth ohono eisoes,