Tudalen:Daffr Owen.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wneuthur rhan dyn y prynhawn hwnnw, tebig mai ei adael i rynnu i farwolaeth a gawsai yr hen Indiad. o ran ei feistr ei hun.

XXXVI. YMRWYMIAD NEWYDD

NOSON i'w chofio am byth ydoedd honno ar frig y Chilcoot. Er gwaethaf y tân yn y radell haearn, yr oedd yn oer eithafol. Heblaw hynny, rhuthrai'r gwynt drwy adwy y Pass gyda nerth mawr, ac er gosod y babell yn y man mwyaf cysgodol posibl, dwywaith yn ystod y nos y gorfuwyd ar y tri ddal â'u holl egni yng nghyrrau eu tŷ gwydn i'w achub rhag cynddaredd yr ystorm.

Ac er eu bod wedi gosod sachau llwythog ar ei odreon i'w gadw yn ei le, amhosibl oedd cysgu serch hynny, gymaint oedd eu hofn a'u pryder yn ei gylch. Oblegid hwn oedd i fod yn annedd nosol i'r ddau ŵr ieuanc hyd nes cyrraedd Dawson, ac o'i golli ymha le y gellid cael un arall? A pha beth a fyddai eu cyflwr hwythau hebddo yn wyneb oerni'r nos?

Ac am ben hyn oll, yn eu hymyl yn griddfan a siarad yn syfrdan yn ei iaith ei hun yr oedd yr hen Indiad. Gwaeddai ar ambell eiliad fel ellyll, ac yna ymlonyddai drachefn i gwynfan a siarad wrtho ei hun. Rhwng y cwbl, ac er cymaint y lludded, ni chysgwyd eiliad gan yr un o'r tri. Eu hunig obaith oedd bod gwaethaf llwybr y Chilcoot ar ben. Ymhen diwrnod arall, cludent eu heiddo cyn belled a'r gors fawr, a gobeithient, cyn machlud haul yr ail ddiwrnod, gyrraedd Llyn Bennett ei hun, pan fyddai cytundeb Daff yn dyfod i ben.

O'i chymharu â lludded y ddydd cyntaf, hawdd oedd y daith o'r Pass i'r gors. Ymdroai'r llwybr ar y gorwaered, ac nid oedd agos mor serth â'r dyfod i fyny yr ochr arall. Y prif berigl bellach oedd llithro i'r pyllau llaid, a oedd yn lluosog ar ddeutu'r