Tudalen:Daffr Owen.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXXVII. "ABRAHAM LINCOLN"

"FONEDDIGION!" ebe fe fore trannoeth. "Yr wyf yn derbyn eich cynnig, ac rwy'n barod i gychwyn i'r Klondyke y pryd y mynnoch."

"Eitha da, Mr. Owen. Dim ond i chwi osod eich enw yn y man hwn bydd popeth wedi ei setlo. Yr oeddem mor sicr, welwch chi, y derbyniech y cynnig, fel y trefnasom y papur cyn cael eich gair. Y man hwn, os gwelwch yn dda, Mr. Owen. Ac yna awn at fater saernïo'r cwch ar unwaith."

Taflodd Daff ei drem dros gynnwys y papur, ac yna llofnododd ar y gwaelod lle yr oedd yr enwau John Bradbury a Sydney St. Clair eisoes wedi eu rhoddi. Nid oedd wedi dianc ei sylw ychwaith mai Owen yn unig ydoedd o'r blaen, ond "Mr." Owen bellach. Golygai hynny gydraddoldeb rhwng y tri, ac heb un cyfeiriad arall at y peth buont fyw yn gydradd o hynny ymlaen yn gydweithwyr ffyddlon ar y cychwyn, ac yn gyfeillion calon cyn y diwedd. Yn raddol hefyd trodd y Mr. Owen, o gyfeillgarwch pur, yn "Daff," a'r un modd Mr. Bradbury yn "Jack," a Mr. St. Clair yn "Syd."

Llyn Bennett oedd dechreu y gadwyn o lynnoedd ac afonydd a yrrai eu dyfroedd i gyfarfod ag Yukon fawreddog rai cannoedd o filltiroedd yn nes i'r gogledd, ac a gludai'r miloedd teithwyr i ardaloedd Dawson a'r Forks yng nghanol gwlad yr aur.

Pan gyrhaeddwyd y llyn gan y gwŷr ieuainc, yr oedd ar ei lan lawn bum mil ar hugain o bobl eisoes, a'r rheini ynghanol y diwydrwydd mwyaf. Ofni yr oeddynt y gallai y gaeaf, a oedd bellach wrth y drws, ddyfod ychydig yn gynt nag arfer, a chloi y dyfroedd cyn ymadael ohonynt â'r lle.

Gwlad goediog oedd y glannau yn naturiol, ond oherwydd y galw mawr gan bob dyn am goed i wneud rhyw lun ar fad i'w ddwyn ef a'i eiddo i El Dorado'r