Tudalen:Daffr Owen.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gogledd, buan y diflannai'r coedwigoedd yn gyflym. Ac heb fod yn hir ni fyddai yno bren i neb. Digon prin oedd yr adnoddau i Ddaff a'i gyfeillion pan gyrhaeddasant hwy yno ond yr oedd un peth yn eu ffafr, sef digon o offer at drin coed. Edrychid ar eu bwyeill, eu llifiau, a'u hebillion, mawr a bach, gydag eiddigedd gan y bobl a oedd yn gorfod talu doler yr un am hoelion wyth modfedd, a thri doler am fenthyg bwyell am hanner diwrnod.

Wedi gweithio gyda'r prysurdeb mwyaf am yn agos i wythnos gwelodd y tri eu bad hwythau yn barod i "gymryd y dwfr." Nid oedd golwg addurnol iawn arno, ond yr oedd yn un o'r cadarnaf ar y llyn, oblegid gwyddent yn dda fod iddo amser garw ar ei daith yn nyfroedd chwyrn y Rapids. Un peth arall a fu o gryn fantais a chysur iddynt yn llaw y dec bychan a osodwyd ganddynt dros y drydedd ran o'r cwch. Cadwodd hwn eu dillad a'u hymborth yn sych mewn llawer ysgydwad, ac heblaw hynny yr oedd yn gadernid i'r cwch ei hun.

Sylwch arno, Syd!" eb ei gyfaill ar fore pwysig y Launch.

"Mae'n nofio fel hwyaden. Ac i chwi, f' hen gyfaill, mae'r diolch i gyd."

Teimlai Daff nad oedd hynny ond cyfiawnder â Sydney St. Clair, oblegid ef, o'r tri, oedd yr adeiladydd goreu o ddigon.

"Thank you, Jack!" ebe'r cyfaill yn ôl, a'r wên ar ei wyneb yn dangos ei fod wedi cael llawn dâl am ei waith.

Erioed ni welwyd y fath amrywiaeth badau ag a oedd ar Lyn Bennett yr amser hwnnw. Popeth, unrhyw beth, a fedrai nofio-gelwid ef yn fad. Ac fel y gellid disgwyl lle yr oedd cymaint o saernïaeth carbwl yn y gwneuthuriad, aeth llawer o'r badau yn chwilfriw unwaith y gadawyd y llyn llonydd ar ôl. Golygai hynny i'r dwylo adeiladu cychod eraill yn eu lle, a hynny dan amgylchiadau gwaeth na'r rhai cyntaf, ac efallai colli'r tymor yn y fargen.