Yn tynnodd y swyddog ei lyfr allan a dechreuodd holi, a Daff yn ei ateb,—
Y ffordd y deuthpwyd i'r lle?—Chilcoot, Bennett, a Lebarge.
Enw'r llestr (os enw o gwbl)?—Abraham Lincoln (y ddau yn gwenu ar hyn).
Moddion cynhaliaeth dros y gaeaf?—Blawd, 8 sach; Pys, 2 sach; Bacwn, 6 ystlys; Siwgr, 50 pwys; Tê, 60 pwys. "Gwna hynyna'r tro," ebe'r swyddog, "ond cynghoraf chwi er dim i osod eich nwyddau mewn lle diegel ar unwaith."
Ymhen dwyawr dychwelodd Syd a Jack. Yr oeddynt wedi rhentu caban ar lethr y bryn tu ôl i'r dref a chyda hwynt yr oedd cert wedi ei hurio i gludo'r nwyddau i fyny i'r lle hwnnw. Dywedodd Daff wrthynt am ymweliad y swyddog, ac yn bendant am ei air olaf. Felly brysiwyd i weithred yn ôl arch, ac i ddilyn yr un cynllun o symud yr eiddo ag a wnaed ar y Chilcoot.
Gofalwyd hefyd ledu'r hwyl dros y cert bob tro yr ai'r trwy'r dre, oherwydd y newyn yn y wlad ar y pryd.
Cyn nos yr oedd nwyddau'r teithwyr yn ddiogel yn y caban, a'r cwch o dan ofal swyddogion y ddinas.
Wedi'r pryd bwyd cyntaf yn y cartref newydd aeth Daff allan am dro i'r dre cyn ei bod yn hollol dywyll.
Rhestr hir, milltir o hyd ar y bryncyn uwchlaw'r afon oedd canolfan yr holl drafnidiaeth. Ni ellid galw honno'n brif heol ychwaith, am nad oedd yn heol o gwbl. Llain o laid fyddai y disgrifiad goreu ohoni.
Ar ei hochr uchaf arweiniai llwybr, ychydig yn llai lleidiog, o'r briffordd i fyny i bob adeilad. Coed yn ddieithriad oedd defnydd y tai, a digon diaddurn oedd hyd yn oed y goreu ohonynt.
Yma yr oedd y banciau, y swyddfeydd, y siopau, a'r saloons yn gwasgu ar draws ei gilydd, a phob un ohonynt (pe rhoddid coel i'w honiadau) yn well nag un banc, swyddfa, siop a saloon arall ar Yukon. Tawel iawn ydoedd pob banc a swyddfa, fodd bynnag, pan