Tudalen:Daffr Owen.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ohonynt ar Ddaff yn cerdded i mewn i'r banc a phynnau dan ei gesail ac yn dyfod allan hebddynt. Cyn pen tri diwrnod yr oedd llygaid oddi rhwng y coed yn syllu ar y pump yn siglo'r cewyll wrth y cafnau dwfr, ac ymhen dau arall yr oedd dieithriaid yn gweithio am fywyd yr ochr uchaf a'r ochr isaf iddynt yn y cwm. Dedwydd oedd Daff yn awr o'i fod wedi sicrhau'r hawl iddo ef a'i gyfeillion mewn pryd. Ac ymhen hynny yr oedd y ffaith eu bod yn bum gŵr gyda'i gilydd yn eu gwneud yn ddiogelach fyth.

Teithiai y sled a'r cŵn i mewn i Dawson ddwywaith yn yr wythnos drwy y trimis o ddechreu Mai i ddechreu Awst, ac yr oedd y pump erbyn hyn yn werth ugain mil o ddoleri yr un.

Ond erbyn hyn hefyd rhaid oedd cynllunio am y dyfodol. Ymhen mis arall cloid y wlad eto gan yr ia, ac yr oedd yn rhaid penderfynu aros dros aeaf arall neu fynd allan drwy Alaska i'r môr, a gwledydd y de.

Dywedai Red Snake a White Cloud ond iddynt gael ugain ci a dwy sled, a digon o gynysgaeth am y gaeaf, y caffai y "much good friends y gweddill o'r arian o'u rhan hwy.

"Nid oes derbyn i fod i'r fath delerau o gryn dipyn!" ebe Syd ar unwaith. "Rhodder iddynt y cŵn a'r ddwy sled yn enw pob rheswm, ond rhaid i'r Canada Bank ddal y gweddill hyd nes y daw y ddau yn ôl yn newynog unwaith eto, yn ôl arfer yr holl Indiaid gonest i gyd."

Chwarddwyd yn galonnog am hyn gan y tri, ond teimlai'r tri hefyd mai Syd oedd yn iawn. "Fe weithia Jack a minnau yma aeaf arall eto,' ebe'r gwron eilwaith. "Beth am danoch chwi, Daff?" Pe dywedai Daff y gwir i gyd, fe ddywedai am y llythyrau mynych a ddeuthai ato o Frazer's Hope, to be called for at Dawson P.O., ac am yr hiraeth am y pentre bychan a'i drigolion a lanwai ei galon. Gallai ddywedyd hefyd am y llythyr diweddaf (a drosglwyddwyd ymlaen iddo o Vancouver), oddiwrth D.Y., ac am y contract "heading caled " yr oedd y