Enillasai Dyfed y gadair eisoes, a Watcyn Wyn y goron. Syrthiodd y wobr i gorau merched i gor y De, o dan arweiniad Clara Novello Davies, ac wele, ar y llwyfan, baratoi i gychwyn cystadleuaeth y corau meibion.
Dacw eneth, gynt o Gymru, ond yn awr o'r Taleithiau, yn canu nes gwefreiddio'r bobl, ac yna y cyntaf o'r corau ar eu traed. Gwrandawyd yn astud ar bob datganiad, ond am gorau'r hen wlad y dyheai'r dorf —am chwarelwyr Eryri, a glowyr Morgannwg. Ar esgyn o'r rhain yn eu tro i'r llwyfan, codai'r dorf atynt gyda banllefau.
Ar wahan i'r canu ei hun yr oedd yr olygfa hon yn un gynhyrfus dros ben. Teimlai Daff ei fynwes yn chwyddo yn y syniad mai Cymro oedd ef, a gwelodd yn ei ymyl ambell ddeigryn distaw a ddywedai'n hyawdl am lawer "Uchenaid am Gymru," am lawer atgof mebyd, a llawer tor-calon am yr hen gartrefi.
Canodd un neu ddau o gorau'r Amerig yn dderbyniol, ond amlwg oedd mai rhwng dau gor Cymru y gorweddai'r dorch. Bu ychydig o anffawd tonyddiaeth i gor y Gogledd, er iddynt ganu'n ardderchog. O'r braidd yr oedd côr y Rhondda gystal â hwynt yn rhediad cyffredin y canu, ond yr oedd ei donyddiaeth yn gliriach, a datganiad yr unawd gan Wilym Thomas, Ynyshir, yn orchestol dros ben.
Y wobr flaenaf—Y Rhondda. Yr ail—Eryri.