Tudalen:Daffr Owen.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ia un gair bach arall, ma' gen' i bresant bach i ti i gofio amdano i. Dod a yn dy bocad! Dôs gen' i ddim gwraig a phlant, diolch i'r nefo'dd, ac os bydd isha rhwpath arnot ti, rwpryd, al di air bach ato i, a fe 'naf 'ngora' glas i d'helpu. Dyna gyd, ffarwel nawr for good!"

"O na, diaich! fe fuo bron anghofio. Ha! Ha! etrach ar hwn. Fe ddangosa' i i'r gwalch am 'weud 'y mod i'n canu'n sharp!"

Ar hyn tynnodd y Cantwr allan bicture postcard. Arno yr oedd llun mul hynod o anhywaith, yn cnoi ac yn cicio.

O dan y darlun, wedi ei ysgrifennu yn anghelfydd gan y Cantwr ei hun, yr oedd—" The Treorci War Horse. Kind Love. David Young. 'Nawr sgrifenna ditha'r address fel bo Williams y postman yn 'i ddiall."

A phan dderbyniodd Shoni yng Nghwm Rhondda, ymhen oddeutu pythefnos, y cerdyn yn ôl y cyfeiriad— Mr. John Jones, Haulier and Baritone, near the "Red Cow," Treorci, South Wales, mawr oedd ei lawenydd o'i dderbyn, er gwaethaf y sen; a dangosai ef i bawb o'i gydnabod.

XXIV. WINNIPEG

ORIAU rhyfedd iawn ym mywyd Daff oedd ei rai olaf yn Chicago. Aeth i'w wely yn gynnar, ond cystal fuasai iddo beidio, canys yr oedd cwsg ymhell o'i amrantau.

Mynnai gorffennol ei fywyd ymwthio arno drwy'r nos. Un foment yr oedd yn yr hen ysgol yng Nghwmdŵr, ac yn byw yr hen droion unwaith eto— y "nitshin pâm a'r "ddrwm fawr" ymhlith y lleill. O hyn cyfododd atgof am ei fam, a gwlychwyd clustog ei wely gan ei ddagrau. Cysur iddo, serch hynny, oedd meddwl fod y daith hon at ei frawd yn unol â'r hyn a ddymunai hi pe bai fyw. Yna cofiodd am droion Cwm Rhondda, am weithio caled, am ganu a chystadlu, am Jim a D.Y., am Shoni, ac am y Picture Card a oedd eisoes ar ei ffordd i Dreorci ato.