Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Thomas yn i llaw a'r shwgartongs yn y llall, "pa sawl un seiniodd y petisiwn yn erbyn Siartar y Brifysgol, deydwch?"

Mi rodd Bryn 'rwan yn troi'r tê yn fwy prysur nag erioed, nes imi ofni y basa fo'n treulio'r cwpan yn dwll, a'i gyfaill o Ferthyr yn ceisio cychwyn rhyw sgwrs arall â mi.

Faint ddeydsoch chi, Mr. Thomas?" ebra Claudia wedyn. gan gymryd arni mai ei hateb hi yr oedd o.

"Dau," ebra fo'n swil.

"Dau gnap o swgwr, ie siwr," medda Claudia, gan estyn y cwpaned tê iddo fo. "Ond faint o honoch seiniodd yn erbyn y Siartar?"

"Dim ond dau, Mrs. Davies," ebra fo'n reit swil. "Dim ond Mr. Bryn Roberts a finau."

Wel, mi roeddach yn ddau wirion hefyd!" medda Claudia. "Mi fasa'n rheitiach lawer y'ch bod chi'n cydweithredu â'r blaid ar bob cwestiwn o bwys i Gymru. Pan fo Cymru'n ymladd am ei hiawnderau, nid dyna'r amser i neb o honoch farchogaeth eich hobis eich hunain. Dau allan o unarddeg ar hugain yn tynu'n groes i'r blaid!” "Ie, ond roeddan ni'n credu yr hyn oeddan ni'n dadleu drosto fo, Mrs. Davies," ebe D. A. Thomas.

"Credu, wir! Ond mi roedd y naw ar hugain arall yn credu ffordd arall, ac mi ddylai dau roid ffordd i naw ar hugian," ebe Claudia.

'Na, nid oedd y naw ar hugain yn credu y ffordd arall chwaith," ebe Bryn. "Y gwir am dani, mi roedd u haner nhw'n credu 'run fath a minau.”

"Ond mi ddaru iddyn nhw wrthod seinio, ond do?"

"Do, do."

"Prawf arall ynte mai tro oedd hwn i chwithau groeshoelio'r hen ddyn. Pan eith Mr. Davies i'r Senedd, mi ffeia io na cheith o ddim chwara rhyw gastia fel yna!