Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—————————————

MAES PENFRO.

Emlyn a GWR (ar yr injan); Cricklade (ar y cerbyd); Pendefigaeth (ar wregys Iarll Cawdor), Cymru Gyfan (sashes Syr Chas Philipps, Wm Jones a L James); Welsh Union WLA (dwyfronneg Mrs Phillipps); Picton Castle (Sash J W Phillips); Y Gwrth Ddegymwyr (cleddyf W Jones)

Lord Emlyn (ar yr Injan) Earl Cawdor, Hon Hugh Campbell (ar lawr); Syr Chas Phillips, Mrs Wynford Phillips (ar y ceffylau); Wm Jones MP J Wynfford Phillips L James, Brynbank, W Jones , Trewyddel

Gorchfygwyd y Brenhinwyr, Hors, Ffwt, and Artileri, gan y Piwritaniaid. Gorweddai'r hen Iarll yn ei waed yn marw,—a gallu'r Bendefigaeth yn Nghymru, fel ei gledd yn ei ymyl, wedi ei dori am byth! ond yn anwylo'n dyner i'r fynud ola ei wyr ieuanc anffodus Huw, a wylai'n fwy am golli ei daid nag am golli'r dydd ar Faes Penfro. Gyrai Emlyn ffwr am ei einioes ar gefn ei G.W.R. Injan, gan ddymchwel Cricklade i'r ffos wrth fynd. Ac yn uwch i fyny gwelid byddinoedd y Brenhinwyr yn ffoi am nodded tua Stackpole Court. Safai'r Piwritaniaid yn gwisgo arwyddluniau Cymru Gyfan, yn edrych ar y gelyn gorchfygedig Yno 'roedd William Jones o Arfon yn ymyl Wynford y Cadflaenor, tra Syr Charles, o Gastell Picton, yn garcharor rhyfel yn ymyl Mrs. Wynford Philipps, yr hon a wisgai ddwyfroneg Undeb Cymreig Cymdeithasau Rhyddfrydol y Merched; ac ar y dde—fel arfer—James Brynbank a Jones Trewyddel, yn rhoi eu bendith ar y cwbl!

(Darlun gan ap Caledfryn)

—————————————