Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond mi ddaru chi gyd seinio'r llythyr hwnw am Ddad— gysylltiad, ond do?" gan edrych yn myw llygad Bryn, fel y bydd yntau'n arfar sbio yn llygad tyst pan yn croesholi'n y llys.

"Wel na, ddaru 'mi ddim," ebro fo yn reit streit.

Chwara teg i Bryn, pan fydd o'n cyfeiliorni mi fydd o'n ddigon o ddyn i beidio gwadu hyny.

"Ddaru chi ddim?" gofynai Claudia, a'i llygid yn fflachio'n ddisgleiriach na'r diamwnt yn ei gwallt hi. "Pwy arall ddaru beidio?"

"Neb arall," ebra Bryn. "Mi seiniodd Rathbone wedi'r cwbwl."

"Felly. Pan oedd naw ar hugain o'r Blaid Gymreig yn peidio seinio mi ddaru i chi wneud; a phan roedd deg ar hugain yn seinio, mi ddaru i chwi beidio?"

Ie, ond mi all fod un yn reit, a deg ar hugain yn rong, Mrs. Davies."

"Twt, lol, potes faip," ebra Claudia, gan dywallt yn ei dryswch y dwfr poeth i'r crim jyg yn lle i'r tepot. "Be 'dach chi well o gael Plaid Gymreig yn y Senedd os na wnewch chwi gydweithio fel Plaid Gymreig?"

"Fel Libral y ces i fy ethol, ac fel Libral y bydda i'n fotio," ebra Bryn.

"Tydi o ddim wedi cael agoriad llygid eto, Mrs. Davies," ebe D. A. "Tydi o ddim yn credu rhyw lawar mewn Plaid Gymreig—fel byddwch chi a finau'n gwneud."

"Wel gora po gyntaf iddo droi oddiwrth i anghrediniaeth os ydi o am fod yn gadwedig," ebra Claudia, gan ganu'r gloch ar Sara i ddod a chrim jyg arall yn lle'r un a'r dwfr poeth. "Ond deydwch wrtha i pam na fasech chi'n seinio, deydwch?"

"Wel, mi ddeyda i chi," ebra Bryn, gan wthio'r gwpan wag heibio er mwyn cael mwy o le. "Tydw i ddim yn