Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Oh," meddwn ina, gan ddechra gweld be oedd hi. gyny "Waeth gyn i. Os bydd hi'n ddiwrnod braf, mi fedra i gerddad. Dichon dowch chi hefo mi trwy Green Park am dro. Neu os bydd hi'n dywydd mawr mi fydd bus yn pasio forma ac mi a i yn hwnw."

Mi spiodd Claudia arna i'n wirion. "Hwot dw iw mîn, David?" ebra hi. "Going down tw ddi Howsis of Parlament bei apointment tw mît a Membar of Hyr Majesti's Gyfyrment, and tecing a comon bus! Ei am syrpreisd at iw Ei myst sê!" A dyma hi'n taflu'r shwgartongs i ganol y ddysgl cig moch, ac yn gosod y teblspwn yn y basn shwgwr.

Fydd Claudia byth yn anghofio'i hun felly os na fydd rhywbath fwy nag arfar wedi ei chynhyrfu, ac mi dybis inau mai gora po cynta oedd imi offrymu aberth dros bechod.

"Wel," ebra fi, " mae bus yn ddigon da i undyn, chwaeth- ach i werthwr llaeth fel fi. Ond os yda chi'n barnu'n wahanol Claudia bach, a i ddim i gicio row yn i gylch o. Mi gyma i gab, neno dyn, os bydd hyny'n y'ch plesio chi'n well."

Mi gnodd ei gwefus, ond prun ai i beidio chwerthin ai i beidio deyd gair oedd ar flaen ei thafod, twn i ddim. "Iwar coffi is cweit cold; let mi gif iw sym hot;" ebra hi gan maflyd yn y nghwpan i a tholltio beth oedd yno fo i'r slopbesn. "Jyst a litl bit mor bêen David? Hiars a biwtiffwl litl bit," âc heb weitied imi ddeyd baswn i na baswn i ddim, dyma hi yn rhoid darn ar y mhlat i. 'Toeddwn i ddim yn hanar leicio hyny chwaith-nid y bêen ydw i'n feddwl, ond fod Claudia'n talu cymint o sylw i fan gysuron bywyd imi ar frecwast fel hyn. Mi wyddwn fod rhywbath i ganlyn rol y petha hyny. Gyda mod i'n