Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ydi, ydi, mae'r pas yn ol reit deicyn i," atebis.

"Wel, hwot in ddi nêm of gwdnes is ddi trybl?"

Wel, deyd mae o. am i mi weitied iddo fo yn y lobi, fel taswn i ryw ffwtman iddo fo! Aed Ellis a'i Hows of Comons i'w grogi cyn rhosa i iddo fo yn y lobi! Fasa fawr gyn i iddo gael lle imi yn y wêtingrwm gan nad sut. Lobi'n wir! Mi ro i lobi iddo fo!" a theflais ei lythyr ar y bwrdd.

Ar hyn dyma Claudia'n chwerthin allan.

"Oh David! David!" ebe hi, "iwf got a dil tw lyrn! Eim affred Ei myst cym widd iw ddi ffyrst teim affter ôl!"

Ond 'toeddwn i ddim yn leicio hyn chwaith, ac mi fuo Claudia, fel y bydd hi, yn ddigon craff i weld hyny hefyd; a chan ofni y baswn i'n 'cau mynd wedi'r cwbl, mi eglur- odd i mi mai " y lobi" y gelwid 'stafell fawr yn nghanol y Ty, lle bydd byddigions yn aros i weitied am rai o'r aelodau, a deudodd sut y bu arni hi ryw dro y bu yno. "Oh, olreit os felly mae hi, neu mi roeddwn i am ddeyd y drefn yn ofnatsan wrth Ellis os oedd o'n mynd i ngosod i yn y lobi fel rhyw dramp," ebe fi.

Felly mi yris bostcard at Ellis i ddeyd y baswn i hefo fo dydd Mawrth yn ol y trefniant. Ond mi gefis i cyn hyny brofi'n chwerw beth oedd cysylltiad â Thŷ'r Cyffredin yn debyg o gostio imi.

Gyda mod i wedi postio'r atab at Tom Ellis dyma Claudia yn troi ata i ac yn deyd:-

"How dw iw propos going, David?"

"Waeth gyn i," ebra finau. "Naill ai lawr trwy'r Green Park neu rhyd Piccadilly a Trafalgar Square."

"No, no!" atebai Claudia." "Not ddi wê byt ddi manar."