PENNOD II.
Y GAREJ AND PER.
Llythyr Tom Ellis-Y lle gwneis i gamsynied-Ffordd Claudia-A'i salwch-Y Gwd Ffêri-Y ddreif gynta tu nol i'r ddau geffyl glas.
Wel, mi sgwenis i at Tom Ellis, ac mi ges atab yn ol yn deyd wrtha i am fod yn y lobi am bump o'r gloch ddydd Mawrth, ac y gofala fo am dana i wedyn. Mi roeddwn i'n synu braidd i fod o'n ceisio gin i aros yn y lobi-wrth gwrs lobi Tŷ'r Cyffredin oedd o'n feddwl. Chymwn i ddim llawar am ddeyd wrth ddyn diarth chwaethach cyfaill am aros yn y lobi; mi fydd y forwyn yma bob amsar yn ceisio gan ddyn diarth i ddod i fiawn i'r hôl os nad i'r morning rwm pan fydd yn galw i ngwelad i. Toeddwn i rywsut ddim yn hidio rhw lawar fod Tom Ellis yn son am i mi aros yn y lobi.
"Be mae'r dyn yn feddwl ydw i, tybad?" ebra fi rhwng dau damad, wedi darllan y llythyr i mi f' hun wrth y bwrdd amser brecwast.
"Hwot is ddi matar, David?" gofynai Claudia. "Iwar corispondant sîms tw haf pwt iw owt."
"Allwn feddwl hyny wir!" atebis ina. "Lwcus mai ata i ac nid atach di Claudia mae o wedi sgwenu."
"Byt hw is it ffrom, and hwot is it abowt?"
"Ond orwth Ellis mae o a——"
"And cant he get iw a pas? Ddi eidia!"