Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dawel, a rhuthro, fel gwneis i, ar fy mhen i ganol dwndwr a ffwdan gwleidyddiaeth

Eithr nid eiddo gŵr ei ffordd—nenwedig os bydd o'n briod, a'i wraig o'n fyw, a hono rywbeth tebyg i Claudia ! Nid cynt y daru mi chwerthin, na dyma Claudia yn cochi fel tan, a'i llygada'n fflachio fel dwy seren, ac yna'n perlio gan ddagrau, a'r hancas poced lês yn dod allan—ac, mewn gair, mi welis fy mod i wedi rhoid fy nhroed ynddi. A dyma fi fel ffwl gwirion at ei hymyl, ac yn taflu 'mraich am dani, fel yr arferwn wneyd er's talwm byd bellach, ac yn deyd:

"Fforgif mi, galon; iw no Ei didnt mîn it. Eil dw hwotefer iw leic, Claudia bach!"

Mi ellwch chi chwerthin am y mhen i, os leiciwch chi— fydda i ddim llawar gwaeth o hyny. Ond, fel na fedrwn i yn y myw beidio chwerthin pan soniodd Claudia am i mi fynd yn Em Pi, felly fedrwn i yn y myw beidio mynd ati a sychu ei dagrau pan weles y mod i wedi rhoid poen iddi wrth chwerthin.

A chyda mod i'n deyd dyma hithau yn codi'i phen, a gwelwn y dagrau wedi boddi'r tân, ond wedi gadael goleuni arall ar ei hol, goleuni oeddwn wedi weled ganwaith yn i llygaid hi er's tro byd; a dyma'r fraich wen am fy ngwddw, a'm pen yn cael ei dynu i lawr ati, a—, wel, ddeyda i ddim chwaneg.

Ond diwedd y stori ydi hyn. Mi foddlonis i gymeryd y mater i ystyriaeth, ac ymgynghori à Tom Ellis, ac edrych be welwn i ac a glywn i am y ffordd ora i fynd o'i chwmpas hi i gael A.S. ar ol fy enw.

Mi ddaru'n setlo i mi sgwenu at Tom Ellis am gael tocyn i weld y Tŷ ddechreu'r wsnos wedyn, a threulio noswaith yn y Tŷ er gwelad sut rodd petha'n mynd yno, a chlwad popeth oedd i'w glwad am dro.