Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod yn trafod llaeth (ond amser tê) erioed, heb son am odro buchod. Mi rydw i wedi synu ganwaith f' hun, a phan ddeyda i'r stori i gyd wrtha chi, pa sut y daeth hi i'r fusnes llaeth, ac o ble doeth hi, fel y deyda i wrtha chi yn y man, mi synwch chitha fwy fyth. Mi fedra dyn dall weled mai nid yn myd y buchod y ganed Claudia—ond mi ddeyda i'r cwbwl wrtha chi yn y man.

"Tw pwt it plenli," ebra hi, pan welodd na 'toeddwn i'n dallt yn iawn be oedd ganddi, "Ei wont iw tw get a sît in Parlament. Ei thinc iw haf as mytsh reit tw bi a Membar of Parlament as meni of ddos hw ar dder."

Wel, mi doris i allan i chwerthin dros y lle. Fedrwn i yn fy myw beidio. Mi roedd y syniad yn rhy chwerthinllyd i mi beidio. Fi, oedd wedi fy magu ar y fferm fynyddig Cwmyronen, yn Llanidris, yn meddwl am wneyd yr hyn oedd y sgweiar wedi methu gneyd, er iddo gynyg dair gwaith, a gwario'r byd o arian wrth geisio a methu; fi, oedd wedi d'od i Lundain heb geiniog tu cefn i mi chwarter canrif cynt, yn meddwl am fynd i'r Senedd gyda'r gwŷr mawr, os gwelwch yn dda; fi, nad oeddwn yn gwybod dim Saesneg ond yr hyn oedd Claudia wedi ddysgu i mi; fi yn meddwl myned i'r fan lle 'roedd siaradwyr goreu'r deyrnas yn ymgynull! Mi roedd y syniad mor hynod, mor "owtrejys," ys deydai Claudia, nes, fel y deydais, i mi chwerthin dros yr holl le. Fedrwn i yn fy myw beidio.

Ond mi fasa'n well imi beidio hefyd, fel gallaswn i fod yn gwybod yn reit dda petawn i wedi meddwl am hanar mynud be oeddwn i'n wneyd. Dichon, pytawn i heb chwerthin pan wneis i, na fasa dim llawar wedi dod o'r peth, ac y cawswn ina lonydd fel cynt i fwynhau fy hun adre yn nghwmni Claudia yn lle troi cefn ar aelwyd