Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hard leins ar Y Genedl oedd ei alw fo'n "horid peper" hefyd, ond gan fod y droed yn parhau i guro, bernais mai doethach gwneyd, a chadd Y Genedl fynd o'r neilldu er mwyn Claudia,—fel y cafodd llawer peth gwell nag o lawer pryd.

"Now, David, hwot Ei mîn is Ei wont iw tw go intw ddi Hows of Comons."

Wel, 'toedd dim o hyn yn gwella rhyw lawar ar bethau; mi rodd Tŷ'r Cyffredin yn nghau, a'r aelodau gyd ffwrdd dros Wyliau'r Sulgwyn. Mentrais inau ddeyd hyny, a dyma'r droed yn curo yn nghynt o'r haner.

"How stiwpid iw can bi tw bi siwar!" medde hi. "Hwot Ei mîn is ddat iw myst gif yp bisnes and go intw ddi Hows."

Wel, a deyd y gwir yn onast wrtha chi, rwan, 'toeddwn i ddim rhyw lawar iawn callach eto. Pa eisio rhoid y fusnes i fyny oedd er mynd am dro i Dŷ'r Cyffredin? Er na 'toeddwn i wedi bod yno erioed, ran hyny, mi rown i'n gybyddus a Tom Ellis, ac mi rodd wedi deyd wrtha i y noson hono y buodd o'n gadeirydd y'n te parti ni hefo'r Ysgol Sul ar's dwy flynedd yn ol, ebe fo:

"Mr. Dafis, os bydd arnoch chi neu Mrs. Davies eisio rhyw dro weled Tŷ y Cyffredin, rho'wch wybod, a mi ofala i am wneyd pob peth yn strêt acw i chi. Rimembar Mrs. Davies, Ei shal bi at iwar syrfis at ôl teims." Felly, 'toedd dim trafferth i fod am gael mynd i mewn, a lol wirion oedd son am roid y fusnes i fyny,—er nad oedd Claudia ddim wedi godro buwch er's deuddeng mlynedd, nac wedi bod yn edrych ar y dynion yn llanw'r tiniau er's tros ddeg, a 'doeddwn ina ddim ond yn mynd am dro hwyr a bora er's dwy neu dair blynedd bellach.

Dichon eich bod chi'n synu fod rhwfun fel Claudia wedi