Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnw chwaith, rhagor na mai Scotshman oedd o wrth ei enw. A thra 'roedd Claudia'n poeni ei hun hefo gwaith Mac Rami, mi rceddwn inau'n darllen Y Genedl, fel byddwn i'n arfer a gwneud yr adeg hono ar brydnawn os na fyddai'r Beibl, neu Draethodau Llenyddol Dr. Lewis Edwards genyf wrth law.

Fel 'rydach chi'n gwybod, mae "busnes llaeth" fel y byddwn ni'n ei alw fo 'rwan, neu "werthu llefrith," fel yr arferwn ei alw ys talwm, wedi talu ei ffordd i lawar un yn Llundan yma,-ac mi rydw inau'n un o'r rheiny. Mi rof fy hanes i chwi ryw dro, ac mi ddalia i, nad yn aml y cewch chi well nofel na f' hanes i o'r dydd y deuthym i'r ddinas fawr yma, yn hogyn o'r wlad, heb geiniog goch yn fy mhocad, hyd 'rwan, pan y medrwn, tae fater am hyny, brynu holl stad y sgweiar yn Llanidris lle ces fy magu. Ond daw hyny yn ei dro cyn bydda i wedi gorphen ysgrifenu'r adgofion yma.

"Ies, David, diar," ebe'r wraig eilwaith, "Ei wont tw get iw intw ddi hows!"

"Be andros," ebe fi wrthyf fy hun, "sy ar Claudia 'rwan?"

Mi rodd y peth yn fy mlino am ddau reswm; yn un peth, fydd Claudia byth yn fy ngalw i yn "David diar," os na fydd hi am gael rhyw gais mwy na'r cyffredin gin i,— Mr. Davies fydd hi fel rheol gan Claudia; ac yn yr ail le, mi roeddem, fel y deidais i eisys, ein dau yn y tŷ ar y pryd. "Hwot dw iw min 'y nghalon i?" meddwn. "Ei am in ddi hows now, mei diar!"

"Ei du wish iw wd toc sensibli David," ebe hithau, gan guro blaen ei throed ar y ffwtstwl sidan-arwydd sicr nad oedd hi yn meddwl cymeryd dim lol. "Now dw pwt ddat horid peper owt of iwar hand ffor a minit, and lisn."