Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dechra cael blas ar y coffi cynes a'r darn dewisol cig moch, dyma Claudia'n deyd:-

"Dont iw thine, David, ddat ffor a man in iwar posishyn, iw ot tw dw ddis thing handsymli?" "Be da chi'n feddwl?" ebra fi. "Os ydy well gyno chi mi gewch yru i nol preifat hansom imi, er y gwnai cab cyffredin yr un tro imi."

Ies," atebai hithau, ond yn amheus felly.

"Ond tybad

'rwan, David, na ddylasa chi fynd yn eich cerbyd eich hun?"

"Be da chi'n feddwl?" gofynis mewn syndod, gan rhoid y gyllell a'r fforc ar y plât. 'Toedd gyn i run cerbyd, welwch chi, ond y ceir llaeth, mi roedd gyn i gryn haner cant o'r rhei hyny. "Ond os yda chi Claudia am i mi wneud, mi rydw i'n ddigon bodlon o'm rhan fy hun-"

Ond cyn imi fedru gorffan dyma hi'n taflu ei theblnapcin ar y bwrdd, ac yn rhuthro ata i a thaflu ei dwy fraich am y ngwddw i, ac yn deyd:

"Iw ar a diar old David affter ôl! Ei was olmost affrêd tw syjest it, and hiar iw jymp at ddi proposal jyst tw plis mi."

"Ie, ie," ebra finau, "ond ddylis i rioed basa peth felly'n eich plesio chi Claudia, chwaith. Tyda chi ddim bodlon imi wneud hyny yn ymyl y fferm chwaethach ar hyd Piccadilly."

Gwneud peth, David," ebra hitha gan spio'n wyllt yn fy llygid.

Wel, gwneud rhyn yda chi'n geisio gyn i'rwan i wneud, dreifio yn y car llaeth tua'r Hows of Comons."

"Oh! Gwd Hefns!" ebra hi, a dyma hi'n rhoid sgrech, ac oni bai imi ei dal hi mi fasa wedi syrthio yn wysg ei chefn i'r llawr.