Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Amball dro bydd Claudia'n cael y ffitia sterics yma. Welis i ddim o honi yn eu cael nhw ond dwy waith o'r blaen-un tro pan ruthrodd Sarah'r forwyn i fiawn ati i ddeyd mod i wedi cael fy lladd ar y stryd o flaen y tŷ, pan 'toeddwn i ddim, ond ryw tshap arall, pwr ffelo, oedd wedi syrthio o dan y wagen; a'r tro arall pan oedd hi wedi gwanio'n fawr ar ol hir salwch ac y digwyddodd i ryw beth tu hwnt i'r cyffredin ei siomi hi'n arw. Mi fuodd am dri- diau'r tro dweutha hyny yn sal ofnatsan, a'r doctor yn dod yno deirgwaith bob dydd, a phan holis i o am y peth, a sut roedd hi'n dod mlaen, mi ddeydodd :-

"Owar peshent ricweiars feri cerffwl trîtment, feri cer- ffwl trîtment. Shi posesis a heili stryng temperament, feri heili stryng, indîd."

A mi dybis i wrth hyny ei bod hi mewn cyflwr reit beryglus.

Mi gefis ofn yn fy nghalon ei bod hi'n mynd i gael un o'r ffitia rheiny'r tro yma. Ond wedi imi ei chario hi at y soffa, a'i rhoid hi ar wastad ei chefn fan hono, a meddwl rhedeg i ganu'r gloch am help, mi roedd ei llaw hi'n dal am fy fy ngwddw, a dyma hi'n agor i llygid ac yn deyd gydag ochenaid:-

"Sê it wos a jôc, David diar!"

Wel ie'n tad, jôc oedd o, be arall?" ebra fina, er mod i'n reit ddifrifol yn y peth y deydis i hefyd. Mi fasa cyn gystlad gyn i ddreifio i lawr at yr Hows of Comons mewn car llaeth ag mewn cab o ran hyny.

"Byt iw shwdnt, David! Iw gef mi sytsh a shoc." ""Toeddwn i ddim yn styried basa ti'n i gymyd o felly, Claudia bach," ebra finau, gan roid cusan ar ei thalcen gwyn llydan hi. "Wna i ddim eto."

"Dys ddat mîn ddat Ei am tw sî abowt it meiselff? " gofynai, gan wenu fel angyles arna i.