Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ie, ie, wrth gwrs hyny," ebra finau, er na wyddwn i ar wynab daear be oedd hyny chwaith.

"And Ei no ddi feri thing tw siwt iw," meddai hithau. Wil iw cym ffor a dreif ddis affternwn." "Do i, os gofalwch chi fod cerbyd yn barod," atebis ina.

"Of cors it wil bi redi," ebra hitha. "Hafnt iw told mi tw sî abowt it? Shal wi sé thri ocloc? "

Ac am dri o'r gloch dyma Claudia i fewn i fy ystafell wedi gwisgo'r peth delia welsoch chi rioed.

Hwot dw iw thinc of mei dreifing costiwm?"

Hyn," meddwn ina, gan maflyd yny hi a rhoid clamp o gusan mawr iddi.

Dont, iw ffwlis boi!" llefai hi. "Iwl spoil mei dres! Byt rili now dw iw thine it bicyms mi?" a dyma hi'n troi o gwmpas gael imi gael golwg lawn arni hi.

"Piti na fasa gyn i garej i dy siwtio di, Claudia bach," Toes yr un ledi yn Llundain fasa'n edrych yn well mewn garej ffyrst clas 'rwan na'ch di." ebra fina.

"Ffalsio yda chi 'rwan, David, rwy'n siwr o hyny," ebe hitha, gan spio fyny ata i o dan ei hamrantau duon mawrion.

"Naci'n reit siwr ichi, mi rydw i'n deyd calon y gwir. Be leiciwn i fasa broam ffyrst clas, 'rwan, a dau geffyl glas mawr yno fo, a chitha'n dreifio trwy'r parc heddyw'r prynawn yno fo tu nol iddyn nhw."

"Dw iw mîn it rili?" ebra hitha, gan droi i spio'n fy llygid i. "Dden cym and sî hwot iwar gwd ffêri has dun tw mît iwar wishis!" A chan fachu 'i llaw yn y mraich i arweiniodd fi lawr i'r grisia, ac allan drwy'r ffrynt. "Ddêr! Hwot dw iw thinc of ddat!"

Ac fel rwy yn y fan yma, dyna lle roedd o flaen y tŷ y