Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

garej fwya swel, a'r ddau geffyl glas fwya biwtiffwl welodd llygad dyn erioed!

Mi wn i rwbath am geffyla fel gwyddoch chi, ac mi welwn ar hanar amrantiad fod y rhai hyn, fel Claudia ei hun, o waed uchel, ac mae'n rhaid imi gydnabod imi yn y fan dori, neu meddwl mod i'n tori, y degfed gorchymyn drwy chwenych eiddo fy nghymydog.

"Pwy pia nhw, Claudia?" ebra fi.

"Hwot a ffwlis cwestion! Ddê âr owars of côrs! Didnt iw tel mi ddis morning tw sî abowt it meiselff? And Ei flatar meiselff iw ewdnt haf don it mytsh betar. Byt Ei am glad iw âr plisd! Ar iw redi?"

Ac mewn breuddwyd arweiniodd fi i lawr hyd grisia ffrynt y tŷ ac at y fan lle roedd y cerbyd yn ein haros, a'r côtshman yn codi ei benelin ini, a'r ffwtman yn twtshad i het, ac yn agor drws y garej, a Claudia'n mynd fiawn, a minau ar ei hol, a ffwr a ni, ac yn dreifio megys mewn breuddwyd o hyd drwy Hyde Park, a hwn a'r llall yn bowio neu godi het i Claudia, a Claudia'n bowio a minau'n codi f'het i atab.

Ond nid breuddwyd oedd hi pan dynis i'r cheque allan i dalu am y teganau hyn rol mynd adra. Mi roedd yn ddigon a ngwneud i'n sal am bythefnos-ond 'toedd wiw imi ddangos hyny i Claudia. Ond griddfan yn yr ysbryd ddaru mi'r noson hono yn fy ngwely wrth feddwl fod dechreu'r daith tua'r Hows of Comons yn costio mor ddrud a hyn. "Ac os ydy'r dechra'n costio cymint, beth fydd cyn y diwedd, tybad?" gofynis imi fy hun.

Ond 'toedd gyn i ddim dychymyg y pryd hwnw pa faint oedd i gostio imi i deithio rhyd y llwybr sy'n rhaid i Ymgeisydd Seneddol, druan, ei dramwy, os am gael myned- iad i drigfanau dedwydd Tŷ'r Cyffredin !