Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III.

Y DDAU GEFFYL GLAS CYNTA.

Practeisio yn y garej-Adgofion-Yr hogyn tlawd a'r gŵr cyfoethog- Achub bywyd Claudia.

Wel, mi ddaeth y dydd oeddwn i wedi gytuno hefo Tom Ellis y baswn i'n mynd lawr tua Tŷ'r Cyffredin i'w welad o. "Bei apointment tw sî a Membar of ddi Ministri, mei diar," ebra Claudia'r prynawn cynt ar dê wrth un o'i ffrindia, gan yru hono adre'n sal gan wenwyn a methu dallt be oedd yn bod fod gyn Dafydd Dafis apointment "widd a Membar of ddi Ministri."

Mi roedd Claudia wedi mynd a fi allan am ddreif yn y garej a'r ddau geffyl glas bob dydd ar ol ei prynu nhw. "Won rieweiars tw bicym acystomd tw ddis sort of thing iw no," ebra hi pan yn fy nghymhell i fynd hefo hi. "And Ei dw ditest going bei meiselff."

Ond mi wyddwn i well pethau. Nid er ei mwyn ei hun, eithr er fy mwyn i 'roedd Claudia am i mi fynd allan hefo hi yn y garej. "Toedd dim gwaith dysgu arni hi sut i bihafio mewn carej na droingrwm nag unlle. Hefo pethau felly 'roedd hi wedi arfer erioed tan iddi briodi hefo mi. Ond am dana i, mi roeddwn i'n dra gwahanol. Wyddwn i ddim beth oedd reidio mewn dim ond trol, ond fel rown i'n gwelad pobol erill.

Hwot dw ddîs horsis rimeind iw of, David?" gofynai Claudia 'rail dro yr aethom allan yn y garej newydd. "Dw iw yndyrstand hwei Ei tshos a pêr of greis ?"