Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A dyma'i llaw fach gynas hi yn llithro i'm llaw galad ina o dan gysgod y ryg, a chyda bod y mysedd i'n cau am ei bysedd hithau, mi gododd golygfa tra gwahanol yn fyw ger bron fy llygaid.

Mi rydw i wedi deyd wrtha chi o'r blaen mai hogyn tlawd o'r wlad, heb geiniog ar fy elw oeddwn i pan ddois i gynta i Lundain. Mi ddeyda i chi ryw dro am f' hanas i radag hono, be gefis i i dioi cefn ar Llanidris, a gwynebu ar Lundain fawr heb ond coron yn fy mhocad, dim gair o Sasnag ar fy nhafod, a dim ar fy nghefn ond y dillad oeddwn i'n sefyll fyny ynddynt ar y daith. Mi ddeyda i hyny i gyd wrtha chi yn ei le priodol, ond fy ngwaith i 'rwan ydy deyd am yr olygfa gododd o flaen llygid fy meddwl pan deimlis law Claudia yn fy llaw i o dan y ryg.

Mhen chydig amsar wedi imi gyrhaedd Llundain 'roedd y peth wedi digwydd. "Toedd fy nillad i'r pryd hwnw ddim wedi mynd yn garpiau fel raethon nhw wedi hyny nes mynd yn rhy ddrwg i wneud bwgan brain o honyn nhw. Ond er na 'toeddan nhw ddim yn garpiau, mi roeddan yn rhai digon garw, a thra gwahanol i'r hyn a wisgid yn Llundain. Mi roedd y trowsus cord, a'r got a gwasgod o frethyn cartre ymddangosent yn iawn yn Llan- idris, yn rhai allan o le ar strydoedd Llundain, fel cefis i deimlo ganwaith y ddau ddiwrnod cynta dreulis i yno 'rioed; canys er na wyddwn i ddim digon o Sasnag i ddeall be oedd pobol yn ddeyd, mi wyddwn ddigon o iaith y llygaid i wybod be oeddan nhw'n ei feddwl.

Mi roeddwn wedi bod am ddiwrnodiau heb ddim byd i'w wneyd, ac heb enill ond un chwech ers pan ddois i i Lundain, ac am ddal pen ceffyl rhyw ŵr bonheddig y cefis