Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i hono. A'r bora hwnw y cefis i'r chwech, pan na 'toedd dim tamad wedi bod rhwng fy nannedd am bedair awr ar hugain, na dim dimai rhwng fy mysedd medrwn i brynu tamad.

Mi gofia i byth mor felus oedd y bara sych brynis i am ddwy geiniog o'r chwech rheiny, a'r cypanad coffi du cynes gefis i hefo fo am geiniog arall, rhyw awr neu well cyn i'r peth ddigwydd y cyfeiriai Claudia ato fo wrth ofyn y cwestiwn imi.

Mi rydw i wedi diolch i'r nefoedd fil o weithia am y chwech hono, ac am y tamad bara a'r cypanad coffi brynis i a'i haner hi y bora hwnw. Oni bai am hyny fasa gyn i ddim nerth na gallu i wneyd yr hyn trwy drugaredd a wneis i'r diwrnod hwnw.

Mi roeddwn ar ol cael y pryd bwyd hwnw wedi mynd fyny heibio Hyde Park Corner i Park Lane heb feddwl fawr baswn i byth yn dod i'r ffasiwn le a hyny i fyw f' hun. Mi rydw'n cofio, fel tase hi ddoe 'rwan, am danaf yn sefyll ac yn sbio ar y crysh ofnatsan yn Hyde Park Corner lle mae'r afonydd o feirch a cherbydau a dynion yn dylifo at eu gilydd, ac yn ceisio dyfalu imi fy hun o ble medran nhw i gyd fod yn dod; ac yn synu fel hogyn o'r wlad, sut 'roedd hi'n bosibl i bobol ddianc rhag niwed yn y fath ruthr dibaid o gerbydau a meirch yn cael eu gyru'n chwyrn.

O drobwll Hyde Park Corner eis gyda'r lli i fyny Park Lane, gan sylwi ar y llinell bron diddiwedd oedd yn mynd a dod ar hyd hono i ac o gyfeiriad Oxford Street a Paddington. Sefais enyd wrth enau un o'r heolydd sy'n troi ar y dde o Park Lane, gan gydmaru tawelwch hono a ffrwd ddidor ffordd fawr Park Lane.

Ond yn sydyn deffrowyd fi o'm haner cysgadrwydd gan