Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olygfa a yrodd fy ngwaed i ruthro'n orwyllt drwy'm gwythienau.

Yr oedd cerbyd gwych yn troi o ffrwd fawr Park Lane i fyny'r stryd dawel lle y safwn. Sylwais gydag ed- mygedd ar y ddau farch glas porthianus fel y tuthient heibio imi. Yn y cerbyd eisteddai geneth ieuanc rhyw un-ar-bymtheg mlwydd oed, yr hon feddyliwn oedd y dlysaf a welodd fy llygaid erioed. Dilynai fy llygaid y cerbyd a'r eneth tra y safai fy nhraed yn yr unfan. Wedi mynd rhyw ganllath ar hyd y stryd, gwelwn y cerbyd yn troi yn ei ol. Sut y digwyddodd y peth nis gallaswn ganfod, ond gyda bod y cerbyd wedi troi, gwelwn y gyrwr yn syrthio megys ar gefnau'r ddau farch; a'r fynud nesaf carlament yn wallgof tuag ataf, a'r awenau yn llusgo'r llawr ar eu hol. Gwelwn y gyrwr yn gorwedd yn ei hyd ar lawr; gwelwn y ferch ieuanc yn neidio ar ei thraed yn y cerbyd, ac yna yn syrthio yn ei hol ar y sedd-a chyda hyny gwelwn fel yn ngoleuni fflachiad mellten ei pherygl. Pe rhuthrai'r ceffylau, fel yr ymddangosent yn debyg o wneud, i ganol ffrwd trafnidiaeth Park Lane, nis gallai dim llai na gwyrth gadw einioes yr eneth ieuanc, gan y dryllid y cerbyd yn ddarnau yn nghanol carnau meirch dychrynedig eraill.

Anghofiais bobpeth ond perygl ofnadwy yr eneth ieuanc. Diolchais i'r nefoedd yn fy nghalon y fynud hono mai hogyn o'r wlad, a hogyn gyru'r wêdd, oeddwn; canys gwyddwn beth i'w wneud a sut i'w wneud o. Yn lle rhuthro i ganol y ffordd i geisio atal y ceffylau, a'u dychrynu'n fwy fyth efallai drwy wneud hyny, arhosais nes oeddent yn mron yn fy ymyl, ac yna rhedais i'r un cyfeiriad a hwynt nes iddynt fy nal; yna, gydag un llam, neidiais gan maflyd yn ffrwyn yr un agosaf ataf, a thynhau yn raddol nes o'r