Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

diwedd yr oedd fy holl bwysau a'm holl nerth ar y ffrwyn. O fewn llai na degllath i Park Lane y llwyddais i atal y cerbyd. Dim ond deg llath rhwng yr eneth ag angau. Yr oedd digon yno i gynorthwyo erbyn hyn, a chan fod yr eneth wedi aros yn y cerbyd o hyd, gwyddwn nas gallai fod wedi cael dim niwed. Nid cynt y deallais ei bod yn ddiogel, a dim peryg bellach iddi, nag y llithrais yn llechwraidd i ganol torf Park Lane, gan yr hon y'm llynewyd cyn pen mynud.

Pam, medde chi, na faswn i'n aros i dderbyn fy ngwobr? Dichon mai chwerthin am fy mhen a wnewch, ond chwarddwch ai beidio dyma'r gwir i chwi.

Ofn gwynebu'r eneth oeddwn wedi achub ei bywyd hi! A'r ofn hwnw yn codi oddiar gywilydd.

Mi roeddwn yn fy ymdrech â'r ceffylau rywsut wedi rhwygo darn mawr o lawes fy nghot-a fedrwn i ddim gwynebu'r eneth a darn o'm llawes yn crogi'n rhydd fel darn o fwgan brain!

Dyna'r gwir yn syml i chwi.

Wel, dyna'r olygfa alwodd geiriau Claudia, a gwasgiad tyner ei llaw, yn fyw o flaen fy llygaid. Just yn y fan lle 'roeddan i pan ofynodd hi'r cwestiwn y cymerodd y digwyddiad le. 'Roedd yn agos i ugain mlynedd wedi pasio er hyny, ond yr oedd mor ffres imi a phetai wedi digwydd ddoe. Ac wrth edrych yn ngwyneb Claudia, mi llaswn dybied mai ddoe ydoedd o ran dim olion oedd y blynyddau rheiny wedi adael ar ei gwyneb anwyl. Rhwydd gweld yr eneth hono yn y wraig a eisteddai yn fy ymyl. Nid mor rhwydd oedd adnabod yr hogyn gwledig mwy na haner newynog, yn y gŵr trwsiadus eisteddai 'rwan yn ymyl Claudia, a'r hwn oedd, debygai, ar y ffordd i fod yn Aelod Seneddol ar ei waethaf.