Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Petai'r ddau geffyl glâs yn ein carej ni yn frodyr i'r ddau geffyl glâs yn y garej arall hono'n agos i ugain mlynedd cynt, amhosibl fasai iddynt fod yn debycach iddynt.

Dyma pam y gofynai Claudia imi am ba beth yr oedd y ceffylau hyn yn fy adgofio.

"Wyddoch chi, David," ebra hi gan wasgu fy llaw yn dyner; " Wyddoch chi, David, mai er cof am y ddau geffyl rheiny y penderfynis i mai dau geffyl glâs ac nid dau geffyl du gawse'ch tynu chi tua'r Hows of Comons ?" Os bydd i'r ddau geffyl yma fod mor lweus imi a'r ddau geffyl rheiny arstalwm, mi fydda i'n ddigon bodlon," meddwn inau.

"Oh, dont iw mêc a mistêc," ebra hithau. "Nid am i chi achub y mywyd i'r tro hwnw y priodais i chwi. Fel gwyddoch chi wyddwn i ddim pan briodais i mai chwi oedd yr hogyn truan chwareuodd ran yr arwr y diwrnod hwnw."

A gwir ddywedai. Pan oeddan ni'n treulio ein mis mêl y sonis i gynta wrth Claudia am y peth. Mae'n rhaid imi ddeyd wrtha chi ryw dro eto am y mis mêl hwnw, a'r modd a'r lle y treuliasom ef; ond nid 'rwan. "Iw ffwlis boi!" medda Claudia pan ddeydis i wrthi mai fi oedd yr hogyn gwyllt o'r wlad oedd wedi dal y ceffyla. "Hwei didnt iw wêt ddat dê ffor mi tw thanc iw?" "Mi roedd eisio mwy na tanciw arna i'r pryd hwnw- ac mi rydw i wedi ei gael o 'rwan," oedd fy ateb, gan gymyd cusan arall.

"Iw ffwlis boi!" medda hitha wedyn. "Dw iw thine Ei wd cis iw on ddi strît dden? Er na faswn yn hitio un mymryn bach i wneud hyny hefyd. Ond pam na fasa chi'n deyd wrtha i cyn yma, David ?"