Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Dim pam am wn i ond nag oeddwn i ddim am i chwi deimlo mod i'n hawlio na disgwyl dim ar gyfri gwasanaeth y gorffenol."

"Iw consîted ffelo!" ebra hitha, gan daro ei llaw ar fy moch. "Iw thot iw wêr gwd ynyff widdowt ddat?"

"Na! Ddylis i rioed mod i, na neb arall, yn ddigon da i chwi, Claudia bach!" oedd f' atab inau.

A tydw i ddim wedi newid y farn hono hyd y dydd. heddyw. Ac os cymwch chi'r drafferth i ddarllen yr hyn sy gyn i i ddeyd yn mhellach, neu petaech chi'n adnabod Claudia fel rydw i'n ei hadnabod hi, mi fasach chitha o'r un farn a minau.

Dyna'r tro cynta rioed imi welad Claudia a'r ddau geffyl glâs cynta. Mi roedd yr ail dro dipyn yn wahanol fel ca i ddeyd wrtha chi; ac o'r ail dro hwnw y dechreuodd adnabyddiaeth Claudia o honwyf fi, er nad fy adnabyddiaeth i o Claudia.

Ond nid 'rwan ydi'r adeg imi ddeyd am hyny. Rhaid imi gofio mai ar fy ffordd tua'r Hows of Comons i gwarfod Tom Ellis "bei apointment" yr oeddwn i pan eis i fel yma ar ol hanes y ddau geffyl glâs arall rheiny.