Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV.

YN YR HOWS OF COMONS.

Dreifio i'r Ty—Brenin Begeriaid Cymru—Tom Ellis a Lloyd George— Difishyn Bel—Y Cariadon Seneddol—Gwd bei, Dinbach!—Iyng Wels yn achub einioes Gladstone.

Pan ddaeth yr amser imi fynd lawr i Dŷ'r Cyffredin i gwarfod Tom Ellis, mi roedd Claudia wedi gofalu fod y garej a'r ddau geffyl glâs yn barod i fynd a fi.

'So mytsh dipends ypon a gwd ffyrst impreshyn, iw no," ebra hi, pan ddeydis i na 'toedd dim eisio cyboli hefo'r garej.

Ond pan eis i i fynd i'r garej, pwy oedd yno gyda mi ond Claudia.

"Yda chitha am ddod hefo mi?" gofynis.

"Oh, no, Eim onli cyming tw dreif iw down, diar;" ebe hi.

Ei am not going tw cym in. Byt Ei want ddi polisman at ddi dôr tw si ddat iw ar symbodi."

Ac felly yn fy ngharej and pêr yr eis i i Dŷ'r Cyffredin y tro cynta 'rioed, a ffwtman i agor drws y garej, a phob dim.

"Now iw bi a gwd boi and dw iwar best," ebe hi, wrth madel, gyda gwên fel haul y bora. "A fydda ina ddim yn segur. Mi a i i alw ar Mrs. Wynford Philipps. Dynas glyfar ofnatsan ydi hi. Mi fynodd hi le i'w gŵr yn y Senedd, a dichon gall hi helpio i gael lle i ngŵr inau hefyd," a ffwr a hi i fyny'r stryd, a ffwr a minau i fyny'r grisia.

Mi gadd y garej and pêr beth argraff ar y plisman hefyd.