Tudalen:Dafydd Dafis sef Hunangofiant Ymgeisydd Seneddol.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyffyrddodd i het i mi, a phan welodd fi'n petruso wedi mynd fiawn, prun ai troi ar fy aswy i lawr i'r grisia yno, neu mynd yn fy union, deydodd :-

"Strêt on, syr, plîs."

A strêt on yr eis, ac i fyny ail risia, ac yno mi rodd dau blîsman arall yn gweitied. Toedd dim o'r rhai hyn wedi gweld y garej and pêr, a bu raid i mi ddeyd wrthi nhw ble rown i am fynd.

Wel mi gyrheiddis i'r lobi o'r diwedd, ac yno mi 'rodd gryn haner cant o ddynion yn sefyll yn ddwy res fawr, fel plant yn yr ysgol, a phedwar plisman, fel pedwar meistr. wrth i penau nhw yn eu cadw "in line." Wyddwn i yn y byd mawr sut 'rodd myned yn mlaen ddim pellach; ac yn fy ffwdan buaswn wedi gwneud rhyw lol, oni basa i rag- luniaeth droi o'm tu.

Wrth sbio o gwmpas heb wbod be i wneud, pwy welwn i yn eistedd yn ymyl ond Vinsent Evans.

Wel, mi wyddwn fod Vinsent law yn llawas a'r gwŷr mawr i gyd, a chan i fod o wedi cymyd dau gini o'm mhocad i ddechreu'r flwyddyn, mi ddylies i baswn i'n mynu rhywbath am dani nhw bellach.

Nid wedi cymyd nhw fel lleidar 'rodd o chwaith, chwareu teg iddo fo, ond fel begar,-ac o bob begar welis i hyd yma Vinsent ydi'r pena. Mi 'rodd wedi cael i introdiwsio i mi gan un o'r blaenoriaid yn Jewin acw, a chyn pen deng mynud mi 'rodd wedi cael gini at y Cymmrodorion, a gini arall at Gymdeithas y Steddfod.

Felly ato fo mi eis yn syth.

"Wel, sut rydach chi? " ebe fi.

Mi edrychodd yn syn am fynud, ac yna mi gofiodd am y ddau gini, ac ebra fo:-

"Mr. Dafis bach! Pwy ddylia'ch gweld chi yma!"